Gweriniaeth Iwerddon yn derbyn gwahoddiad i gystadlu yng Nghwpan Her Irn-Bru 2017/18

067_323__irnbrulogo1_1466601512_standard (1)
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 7 Jun 2017, 10:04

Llynedd fe gafodd dau glwb yr un o brif gynghreiriau Cymru a Gogledd Iwerddon eu gwahodd gan Yr Alban i gystadlu yn Nghwpan Her Irn-Bru am y tro cyntaf erioed, a’r tymor nesaf mi fydd dau glwb o Weriniaeth Iwerddon yn ymuno â’r gystadleuaeth hefyd.

Mae Cwpan Her yr Alban yn bodoli ers 1990/91 pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf i ddathlu 100 mlwyddiant ers ffurfio’r gynghrair bêl-droed Albanaidd.

Yn wreiddiol, cystadleuaeth i glybiau cynghreiriau’r Alban o dan yr uwch gynghrair oedd hi, ond y tymor diwethaf fe ychwanegwyd 12 tîm dan20 clybiau Uwch Gynghrair Yr Alban, pedwar tîm yr un o’r Highland League a’r Lowland League (clybiau rhan amser Yr Alban), a dau glwb yr un o UG Gogledd Iwerddon ac UG Cymru.

Nawr, yn dilyn cymeradwyaeth gan UEFA, mi fydd Sligo Rovers a Bray Wanderers o Weriniaeth Iwerddon yn cystadlu yng Nghwpan Her Irn-Bru 2017/18.

Cynghrair yr Haf sydd yn Iwerddon, ac fe fethodd Sligo Rovers (5ed) a Bray Wanderers (6ed) i orffen yn y pedwar uchaf a sicrhau pêl-droed Ewropeaidd y tymor diwethaf.

Dundee Utd yw deiliaid y gwpan wedi iddyn nhw drechu St Mirren (2-1) yn y rownd derfynol yn 2016/17.

Cyrhaeddodd Y Seintiau Newydd y rownd gynderfynol gan sicrhau gwobr ariannol o £10,250 yn eu tymor cyntaf yn y gystadleuaeth ar ôl curo Forfar Athletic a Livingston cyn colli yn erbyn St Mirren.

Fe gollodd Y Bala yn erbyn Alloa Athletic yn eu hunig gêm yn y gystadleuaeth.

Y Seintiau Newydd a Cei Connah fydd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth eleni ar ôl gorffen yn y ddau safle uchaf yn UG Cymru 2016/17.

Roedd timau Cymru yn ymuno â’r gystadleuaeth yn y bedwaredd rownd y tymor diwethaf, ond mi fydd Y Seintiau Newydd, Cei Connah yn ymuno â’r gystadleuaeth yn yr ail rownd eleni ynghŷd â chlybiau Gogledd Iwerddon a Gwerinieth Iwerddon (Crusaders, Linfield, Bray Wanderers, Sligo Rovers).

Mi fydd yr enwau yn dod allan o’r het ar gyfer y rownd gyntaf ar ddydd Mawrth, 27 Mehefin.