HNK Rijeka 2-0 Y Seintiau Newydd

AG1K5924e
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 11 Jul 2017, 21:51

Noson siomedig i’r Seintiau yng Nghroatia ar ôl ildio dwy gôl yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Mi fydd hi’n her i’r Seintiau Newydd yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr wythnos nesaf yn erbyn pencampwyr Croatia, Rijeka, gyda tîm Scott Ruscoe angen sgorio dwy – heb ildio – i sicrhau amser ychwanegol.

Roedd y tîm o Groatia llawn dawn rhyngwladol, megis Mario Gavranović (11 cap i’r Swistir), Stefan Ristovski (33 cap i Macedonia) a Josip Mišić (2 cap i Groatia), gyda Rijeka yn achosi problemau i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru drwy’r cymal cyntaf.

Sgoriodd pencampwyr Croatia ar ôl dim ond pum munud o chwarae, chwaraewr rhyngwladol Croatia Josip Mišić yn rhwydo cic rydd o ymyl y cwrt cosbi.

Fe ddylai Paul Harrison wedi gwenud yn well i arbed yr ergyd ac mi roedd Steve Saunders ar fai am ildio’r gic rydd mewn man peryglus.

Er i’r Seintiau Newydd amddiffyn yn gadarn drwy’r hanner cyntaf, gan sicrhau mae dim ond un gôl oedd ynddi ar yr egwyl, llwyddodd Rijeka sgorio gydag 20 munud yn weddill.

Sgoriodd Florentin Matei ar ôl gwaith da ar yr asgell dde gan Stefan Ristovski.

Mi fydd ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei gynnal ar Neuadd y Parc nos Fawrth nesaf, 18 Gorffennaf.