Moldofa 0-2 Cymru

DI_NcsYXkAEKilQ
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 5 Sep 2017, 23:02

Cymru yn camu dros Gweriniaeth Iwerddon i’r ail safle yn Grwp D ar ôl i dîm Chris Coleman sicrhau buddugoliaeth 0-2 yn erbyn Moldofa.

Sgoriodd Hal Robson-Kanu ac Aaron Ramsey yn hwyr yn yr ail hanner i sicrhau triphwynt allweddol yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Dyma’r ail fuddugoliaeth yn olynol i dîm Chris Coleman ar ôl curo Awstria 1-0 diolch i gôl wych Ben Woodburn ar ei ymddangosiad cyntaf dros y tîm cenedlaethol nos Sadwrn diwethaf.

Llwyddodd Woodburn i brofi’n werthfawr eto gan greu’r cyfle ar gyfer y gôl gyntaf ar ôl rhedeg yn dda a croesi i Robson-Kanu benio Cymru ar y blaen.

Gan fod Gweriniaeth Iwerddon wedi colli 0-1 i Serbia yn Nulyn heno, mae Cymru wedi camu dros tîm Martin O’Neill i’r ail safle gyda 14 pwynt, pwynt yn well na’r Weriniaeth.

Gyda dwy gêm yn weddill o’r gemau rhagbrofol, mi fydd Chris Coleman yn gobeithio sicrhau’r ail safle – a lle yn y gemau ail gyfle – gyda Serbia pedwar pwynt yn well na Cymru ar frig Grwp D.

Mi fydd Cymru yn teithio i Georgia ar y 9fed o Hydref yn eu gêm nesaf yn grwp D cyn croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd ar nos Lun y 9fed o Hydref.