Noson siomedig i glybiau Cymru yn Ewrop

r2

Colli 3-0 oedd hanes Cei Connah, Y Bala a Bangor yn Nghynghrair Europa ar nos Iau, 6 Gorffennaf, gyda’r tri clwb o Gymru yn syrthio allan o’r gystadleuaeth yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Ail Gymal, Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair Europa:
HJK 3-0 Cei Connah (3-1 dros ddau gymal)
Vaduz 3-0 Y Bala (5-1 dros ddau gymal)
Bangor 0-3 Lyngby (0-4 dros ddau gymal)

Roedd Cei Connah wedi achosi tipyn o sioc wrth guro cewri’r Ffindir, HJK Helsinki 1-0 yn y cymal cyntaf, ond doedd na ddim stori tylwyth teg i fod yn yr ail gymal gyda HJK yn ennill 3-0 yn Stadiwm Helsinki i sicrhau buddugoliaeth o 3-1 dros y ddau gymal.

Yn Liechtenstein fe sgoriodd Vaduz deirgwaith yn yr hanner cyntaf yn erbyn Y Bala ar noson i’w anghofio i dîm Colin Caton.

Roedd Bangor ar ei hôl hi wedi llai na tri munud yn eu gêm hwythau yn erbyn Lyngby o Ddenmarc, ac er cael gêm agos yn y cymal cyntaf (colli 1-0), roedd hi’n grasfa i’r Dinasyddion yn Nantporth y tro hwn gyda Lyngby yn ennill 0-3 ar y noson gan sicrhau buddugoliaeth o 4-0 dros y ddau gymal.

Felly’r Seintiau Newydd yw’r unig glwb o Gymru sydd wedi llwyddo i gamu i’r rownd nesaf yn Ewrop ac mi fyddan nhw’n herio HNK Rijeka nos Fawrth, 11 Gorffennaf yng nghymal cyntaf, ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.