Oswell yn arwyddo i’r Hatters

JASON OSWELL Ident
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 5 Jun 2017, 09:09

Mae prif sgoriwr UG Cymru 2016/17 ac enillydd gwobr ‘Chwaraewr y Tymor’, Jason Oswell wedi gadael Y Drenewydd ar ôl tair mlynedd er mwyn ymuno â Stockport County.

Rhwydodd Oswell 22 o goliau cynghrair i’r Robiniaid yn 2016/17 i sicrhau’r Esgid Aur ac helpu’r clwb i osgoi’r cwymp a chyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae gan Oswell (24 oed) record sgorio gwych yn ei gyfnod gyda’r Drenewydd – 51 gôl mewn 91 gêm gynghrair.

Sgoriodd ddwywaith yn erbyn Valletta (Malta) ym muddugoliaeth hanesyddol Y Drenewydd yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yn 2014.

Gorffenodd Stockport yn 8fed yng ‘Nghynghrair Genedlaethol y Gogledd’ y tymor diwethaf.

Bydd gan Chris Hughes tipyn o waith i’w wneud i lenwi’r bylchau yn y garfan wedi ymadawiad ei brif sgoriwr Jason Oswell, a’i gapten Shane Sutton sydd wedi ymuno â AFC Telford.

Bydd y ddau yn chwarae yn erbyn ei gilydd yng ‘Nghynghrair Genedlaethol y Gogledd’ y tymor nesaf.

Gwyliwch fideo byr o holl goliau cynghrair Oswell yn 2016/17 yma: