Rhagolwg: Prestatyn v gap Cei Connah

dave-hayes
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 22 Feb 2017, 15:30

Prestatyn yn erbyn gap Cei Connah fydd gêm fyw Sgorio yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror gyda’r gic gyntaf am 17:15 yn Stadiwm Motion Finance.

Rownd yr Wyth Olaf
Cegidfa v Y Bala
Llanfair Utd v Caernarfon
Prestatyn v gap Cei Connah
Y Seintiau Newydd v Bangor

Daeth uchafbwynt clwb pêl-droed Prestatyn o’u llwyddiant yn y gystadleuaeth yma wedi iddyn nhw ennill y gwpan yn 2012/13 a mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop a churo Liepājas Metalurgs o Latfia.

Mae Prestatyn ar frig Cynghrair Huws Gray, heb golli dim un o’u 23 gêm gynghrair y tymor hwn ac yn debygol o ddychwelyd i UG Cymru y tymor nesaf.

Dyw’r timau heb gwrdd ers Ebrill 2015, sef gêm olaf Prestatyn yn UG Cymru cyn syrthio o’r brif adran dwy flynedd yn ôl (Cei 3-1 Pres).

Bydd na frwydr teuluol difyr i’w weld yn Stadiwm Motion Finance wrth i Kai Edwards baratoi i herio ei dref-enedigol, ei gyn-glwb, a’i frawd bach Noah Edwards.

Mae Cei Connah wedi ennill Cwpan Cymru unwaith fel ‘Cei Connah & Shotton’ yn 1929 drwy guro Caerdydd yn y ffeinal ar y Cae Ras (3-0).

Bydd y Nomadiaid yn anelu i gyrraedd y rownd gynderfynol am yr ail dymor yn olynol, ar ôl gwneud hynny’r tymor diwethaf cyn colli’n drwm o 5-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Taith hyd yma:
Prestatyn: Llanelwy (0-8), Penarlâg (1-4), Hotspur Caergybi (2-1 w.a.y), Aberystwyth (1-5)
gap Cei Connah: Goetre Utd (3-2), Hwlffordd (1-5)

Prestatyn v gap Cei Connah yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 25 Chwefror am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru neu ar ein tudalen Facebook am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.