Pwy sy’n mynd a dod ym mis Ionawr?

C0ngH_bWQAAZ4DM

Mae’r ffenestr drosglwyddo wedi agor ac mae sawl clwb wedi bod yn brysur yn ychwanegu at eu carfan wrth baratoi at ail ran y tymor.

Un o’r enwau mawr i symud yw’r amddiffynnwr Kai Edwards sy’n ymuno gyda gap Cei Connah o Wrecsam ar ôl treulio chwe mis gyda clwb y Cae Ras.

Efallai mae’r sioc mwyaf hyd yma yw bod Sion Edwards wedi ymuno â Rhyl ar fenthyg o Fangor.

Sion Edwards sy’n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau i Fangor yn UG Cymru – 228 (+80) ymdd, 58 gôl i Fangor ers 2006.

Ar ôl treulio 10 tymor yn disgleirio i’r Dinasyddion, mi fydd hi’n deimlad rhyfedd i selogion Nantporth i weld yr asgellwr yng nghrys gwyn eu prif elynion, Y Rhyl.

Bydd Edwards yn cymeryd y crys rhif 11 gan Rob Hughes sydd yn gadael Y Rhyl i fynd i chwarae yn Awstralia.

Hefyd yn gadael Nantporth mae’r blaenwr Jamie Reed sy’n dychwelyd i Landudno am ei gyfnod gyda’r clwb chwe mis ar ôl gadael y clwb i arwyddo i Fangor .

Mae Chris Rimmer wedi dychwelyd i Rhyl o gap Cei Connah, ac un arall sydd yn ymuno â thîm Niall McGuinness yw’r ‘Bwystfil’ Steve Lewis sydd yn dychwelyd i UG Cymru ar ôl treulio hanner cynta’r tymor gyda Droylsden.

Mae Bangor wedi arwyddo’r amddiffynnwr Paul Connolly ar ôl iddo dreulio mis ar fenthyg gyda’r clwb o Airbus UK. Hefyd yn ymuno â Bangor mae’r amddiffynwyr Sergio Uyi a Jack Metcalf tra bod Oscar Durnin wedi ei ryddhau.

Mae dipyn o newid wedi bod yn Aberystwyth gyda’r blaenwyr John Owen, Lee Healey a’r chwaraewr canol cae Elliot Scotcher yn symud i Goedlan y Parc tra bod Joe Clarke yn gadael y clwb i ymuno â Llanelli ddyddiau ar ôl sgorio ei ddwy gôl gyntaf i’r tîm yn erbyn Y Drenewydd.

Mae Chris Mullock wedi arwyddo’n barhaol i Aber ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda’r clwb o’r Seintiau Newydd tra bo’r ymosodwr Blake Davies yn dychwelyd i Forest Green ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda tîm Matthew Bishop.

Mae’n debyg y bydd Chris Jones yn symud o Goedlan y Parc i Barc Latham, tra bod Nick Rushton hefyd yn ymuno â’r Drenewydd, ond ar fenthyg o Gei Connah.

Yn ogystal a John Owen, mae Nathan Peate hefyd yn gadael Parc Maesdu i ymuno â Derwyddon Cefn.

Bydd Airbus yn siomedig o golli Ryan Wignall sydd wedi ymuno â gap Cei Connah, ond mae’r blaenwr Obi Anoruo wedi arwyddo i’r clwb o Frychdyn.

Rhestr o’r trosglwyddiadau hyd yma:

Aberystwyth

  Gadael Ymuno
John Owen Llandudno Aberystwyth
Chris Mullock Y Seintiau Newydd Aberystwyth
Elliot Scotcher Merthyr Aberystwyth
Lee Healey Treffynnon Aberystwyth
Jamie Crowther Y Bala Aberystwyth
 
Joe Clarke Aberystwyth Llanelli
Ricky Watts Aberystwyth Hwlffordd
Blake Davies Aberystwyth (ar fenthyg) Forest Green

—————————————————————————————————-

Airbus UK

  Gadael Ymuno
Shaun Pearson Bae Colwyn Airbus UK
Glenn Rule Stockport Airbus UK
Obi Anoruo Marine Airbus UK
 
Paul Connolly Airbus UK Bangor
Ryan Wignall Airbus UK gap Cei Connah

—————————————————————————————————-

Bangor

  Gadael Ymuno
Michael Higdon Tranmere Bangor
Paul Connolly Airbus UK Bangor
Jack Metcalf Charlotte Ind Bangor
Sergio Uyi SVV Reutlingen 1905 Bangor
 
Jamie Reed Bangor Llandudno
Oscar Durnin Bangor (rhyddhau)
Sion Edwards Bangor Y Rhyl (ar fenthyg)
Sion Bradley Bangor Porthmadog (ar fenthyg)

—————————————————————————————————-

Caerfyrddin

  Gadael Ymuno
Liam Griffiths Goetre Utd Caerfyrddin
 
Matthew Thomas Caerfyrddin Cinderford

—————————————————————————————————-

Derwyddon Cefn

  Gadael Ymuno
Nathan Peate Llandudno Derwyddon Cefn
Filippo Casaretto Rapallo Ruentes Derwyddon Cefn
Ashley Ruane gap Cei Connah Derwyddon Cefn
 
Mark Winslade Derwyddon Cefn Treffynnon

—————————————————————————————————-

gap Cei Connah

  Gadael Ymuno
Kai Edwards Wrecsam gap Cei Connah
Ryan Wignall Airbus UK gap Cei Connah
 
Chris Rimmer gap Cei Connah Y Rhyl
Nick Rushton gap Cei Connah Y Drenewydd (ar fenthyg)
John Rushton gap Cei Connah Treffynnon (ar fenthyg)

—————————————————————————————————-

Llandudno

  Gadael Ymuno
Jamie Reed Bangor Llandudno
Jamal Crawford Burnley Llandudno
Joe Chaplin Conwy Llandudno
 
John Owen Llandudno Aberystwyth
Nathan Peate Llandudno Derwyddon Cefn

—————————————————————————————————-

Met Caerdydd

Dim gwybodaeth

—————————————————————————————————-

Y Bala

  Gadael Ymuno
Ryan Goldston Rhuthun Y Bala
 
Jamie Crowther Y Bala Aberystwyth

—————————————————————————————————-

Y Drenewydd

  Gadael Ymuno
Joe Kenton Tividale Y Drenewydd
Nick Rushton gap Cei Connah Y Drenewydd (ar fenthyg)

—————————————————————————————————-

Y Rhyl

  Gadael Ymuno
Steve Lewis Droylsden Y Rhyl
Chris Rimmer gap Cei Connah Y Rhyl
Sion Edwards Bangor Y Rhyl (ar fenthyg)
James Jones Abergele Y Rhyl
Ashley Young Bangor Y Rhyl
Dan Lavercombe Wigan Athletic Y Rhyl (ar fenthyg)
 
Robert Hughes Y Rhyl Goulburn VS
Jordan Miller Y Rhyl (rhyddhau)
Owen Evans Y Rhyl (ar fenthyg) Wigan Athletic

—————————————————————————————————-

Y Seintiau Newydd

  Gadael Ymuno
Chris Mullock YSN Aberystwyth