Rhagolwg: Bangor v Llandudno

DSC_3900
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 29 Dec 2017, 13:31

Bydd Sgorio’n fyw o Stadiwm VSM Clwb Pêl-droed Bangor ar ddydd Calan, pan fydd y Dinasyddion yn herio Llandudno gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Bangor v Llandudno | Dydd Llun – 17:15 (S4C)
Mae Bangor wedi sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol – hynny ar ôl tair mlynedd yn y Chwech Isaf.

Mae’r Dinasyddion ar rediad o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ers colli gartref vs Cefn ym mis Hydref (8 UGC, 1 Cwpan Cymru).

Mae Bangor wedi cadw tair llechen lân yn olynol, ac ond wedi ildio unwaith yn y chwe gêm gynghrair ddiwethaf.

Wedi dweud hynny, bydd Kevin Nicholson yn siomedig bod eu dwy gêm ddiwethaf wedi gorffen yn ddi-sgôr (vs Cfin a Llan).

Byddai Bangor wedi curo Llandudno ar ddydd San Steffan oni bai am i Dave Roberts gael gêm arbennig yn y gôl i Landudno, gan wneud nifer o arbediadau safonol cyn arbed cic o’r smotyn James Demetriou wedi 87 munud.

Mae disgwyl newidiadau mawr yn Llandudno ym mis Ionawr wrth i Iwan Williams baratoi i roi ei stamp ei hun ar y garfan.

Mae Iwan Williams wedi bod wrth y llyw ar gyfer saith gêm i Landudno yn UGC (ennill 1, cyfartal 3, colli 3).

Mae tair o bedair gêm ddiwethaf Llandudno wedi gorffen yn ddi-sgôr, yn cynnwys eu dwy gêm ddiwethaf, gartref vs Met a Bangor.

Felly’r rheolwr newydd yn adeiladu o’r cefn efallai – y tîm ond wedi ildio chwe gôl mewn saith gêm ers iddo ymuno (tair llechen lân)… ond sgorio goliau yw’r broblem.

Llandudno wedi sgorio 4 gôl yn eu 7 gêm ddiwethaf (3 vs Pres, 1 vs Dre), gan fethu a sgorio mewn 5 o’r 7 gêm.

Gêm ddiwethaf:
Llandudno 0-0 Bangor (26/12/17)

Heddiw mewn hanes

22 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1955 llwyddodd Cymru i drechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.