Rhagolwg: Bangor v Met Caerdydd

Bangor v MET
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 11 May 2017, 11:45

Bydd y Dinasyddion a’r myfyrwyr yn brwydro am bêl-droed Ewropeaidd dros y penwythnos yng ngêm olaf tymor 2016/17, sef rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala eisoes wedi archebu eu Euros ar gyfer antur Ewropeaidd, ond pa glwb arall o UG Cymru fydd yn ymuno â nhw dros yr haf?

Bydd Y Seintiau Newydd yn cystadlu yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr ddiwedd mis Mehefin, tra bydd Y Bala, Cei Connah ac enillwyr y gemau ail gyfle yn cael eu lle yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Mi fydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Y Swistir ar 19 Mehefin a’r gemau rhagbrofol cyntaf i’w chwarae wythnos yn ddiweddarach (27-29 Mehefin).

Enillwyr y gemau ail gyfle:
2016: Cei Connah
2015: Y Drenewydd
2014: Bangor
2013: Y Bala
2012: Llanelli
2011: Castell-nedd

Dydd Sadwrn

Bangor v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 17:15 (YN FYW AR S4C)
Ar ôl dwy gêm agos y penwythnos diwethaf yn y rownd gynderfynol, dim ond 90 munud sydd bellach rhwng y ddau dîm yma a’r gwobr o €215,000 a phêl-droed Ewropeaidd.

Mewn gêm ddramatig yn Nantporth fe aeth Bangor ar y blaen 2-0 yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd gynderfynol cyn i’r Robiniaid frwydro’n ôl i’w gwneud hi’n gyfartal ar yr egwyl.

Gary Roberts oedd yr arwr i’r Dinasyddion gan iddo grymanu cic rydd gelfydd dros y wal ac i gefn y rhwyd i ennill y gêm i Fangor yn yr ail hanner (3-2).

Roedd na ddrama hwyr yn y gêm yn Stadiwm Cymru Tyres hefyd wrth i Charlie Corsby benio’r gôl fuddugol i Met Caerdydd yn eiliadau ola’r gêm i guro Caerfyrddin (1-2) a gyrru’r myfyrwyr i’r ffeinal.

Bydd y Dinasyddion yn gobeithio sicrhau lle yn Ewrop am y tro cyntaf ers tair mlynedd drwy ail-adrodd campau tymor 2013/14, pan y curon nhw’r Drenewydd (1-0) yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle cyn mynd ymlaen i drechu Rhyl yn y ffeinal (2-0).

Mae yna dair mlynedd ers i Bangor sicrhau safle Ewropeaidd pan y collon nhw 8-0 dros ddau gymal yn erbyn Stjarnan o Wlad yr Iâ.

Mae Met Caerdydd, fel Llandudno llynedd, yn gobeithio sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed yn eu tymor cyntaf yn UG Cymru.

Hon fydd y pumed gêm rhwng y clybiau y tymor yma gyda Bangor wedi curo Met deirgwaith yn barod, a cholli unwaith yng ngêm olaf Andy Legg wrth y llyw i’r Dinasyddion (4-0).

Gobaith Bangor bydd cael ychwanegu at eu hanes o bêl-droed Ewropeaidd sy’n cynnwys gemau agos yn erbyn Napoli ac Atletico Madrid yn y 60au a’r 80au.

Yn fwy diweddar fe enillodd Bangor yn erbyn FC Honka o’r Ffindir yn 2010/11 gan gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Mae’r Dinasyddion wedi cyrraedd Ewrop 15 o weithiau gan gystadlu mewn 17 o rowndiau a chwarae cyfanswm o 35 o gemau Ewropeaidd.

Y nod i Met Caerdydd yw cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ac wrth i’r gynghrair ddathlu ei benblwydd yn 25ain, fe all y myfyrwyr fod y 25ain clwb o UG Cymru i gystadlu yn Ewrop

Gemau diwethaf:
Met Caerdydd 2-3 Bangor (09/04/17)
Bangor 3-2 Met Caerdydd (18/02/17)
Met Caerdydd 4-0 Bangor (19/11/16)
Bangor 2-1 Met Caerdydd (02/10/16)

Bangor v Met Caerdydd yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 13 Mai am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru neu ar ein tudalen Facebook am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.