Rhagolwg: Cymru v Awstria

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Wales v Serbia
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 29 Aug 2017, 10:02

Mae sylw’r byd pêl-droed yn troi at y gemau rhyngwladol y penwythnos yma ac mi fydd y gêm rhwng Cymru ac Awstria yn fyw ar S4C nos Sadwrn wrth i’r ddwy wlad geisio dal eu gafael ar y freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Gyda dim ond pedair gêm yn weddill yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, mae Cymru ac Awstria yn hafal ar wyth pwynt yr un yn y 3ydd ar 4ydd safle, pedwar pwynt tu ôl i Serbia ac Iwerddon sydd ar frig Grŵp D.

Gan mae dim ond y tîm sydd yn gorffen ar frig y grŵp sydd yn sicr o’u lle yng Nghwpan y Byd, mi fydd rhaid sichrau canlyniadau cadarnhaol yn y gemau yn erbyn Awstria (nos Sadwrn) a Moldofa (nos Fawrth) os yw Cymru am gadw gobaith gwirioneddol o orffen ar y brig.

Dyw Cymru heb golli dim un o’u chwe gêm yn yr ymgyrch hyd yma, ond ar ôl cael pum gêm gyfartal mae’n bosib mae targed realistig tîm Chris Coleman yw gorffen yn yr ail safle, gan obeithio sicrhau lle yn y gemau ail gyfle (bydd wyth o’r naw gwlad sy’n gorffen yn ail yn eu grwpiau yn mynd ymlaen i’r gemau ail gyfle – a pedwar o’r rheiny yn mynd ymlaen i Gwpan y Byd).

Ers curo Moldofa yng ngêm agoriadol yr ymgyrch, mae pum gêm ddiwethaf Cymru wedi gorffen yn gyfartal, ac mae’r cochion wedi bod ar y blaen ar yr egwyl ym mhob un o’r gemau hynny, oni bai am y gêm ddi-sgôr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Y tro diwethaf i’r gwledydd gwrdd fe roedd Cymru’n ennill 1-2 ar yr egwyl wedi i Joe Allen sgorio gyntaf, cyn i Kevin Wimmer droi y bêl i’w rwyd ei hun ar ôl i Marko Arnautovic unioni’r sgôr. Sgoriodd Arnautovic ei ail o’r gêm yn yr ail hanner i sicrhau gêm gyfartal (2-2).

Ond bydd rhaid i Gymru ymdopi heb wasanaeth Joe Allen y tro yma gan ei fod wedi ei wahardd am gasglu dau gerdyn melyn yn yr ymgyrch, ynghyd â Neil Taylor, sydd wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Bydd cefnogwyr Cymru yn falch o weld Gareth Bale yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn ei waharddiad.

Gemau Grŵp D:
2 Medi 2017
Georgia v Gwe. Iwerddon – 17.00
Serbia v Moldofa – 17.00
Cymru v Awstria – 19.45

5 Medi 2017
Awstria v Georgia
Moldofa v Cymru
Gwe. Iwerddon v Serbia

6 Hydref 2017
Georgia v Cymru
Awstria v Serbia
Gwe. Iwerddon v Moldofa

9 Hydref 2017
Moldofa v Awstria
Serbia v Georgia
Cymru v Gwe. Iwerddon

Cymru v Awstria yn FYW ar S4C nos Sadwrn, 2 Medi am 19:15.