Rhagolwg: Derwyddon Cefn v Caerfyrddin

untitled-59
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 10 Jan 2017, 14:39

Brynhawn Sadwrn mi fydd Caerfyrddin yn gobeithio sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers 2013/14 wrth iddyn nhw herio Derwyddon Cefn ar Y Graig yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Ar y penwythnos olaf cyn yr hollt mi fydd y chwe gêm yn UG Cymru yn dechrau ar yr un pryd am 17:15 brynhawn Sadwrn gyda Caerfyrddin yn dechrau’r prynhawn ddau bwynt uwchben Llandudno yn y 6ed safle.

Dylai pwynt fod yn ddigon i’r Hen Aur i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf gan bod eu gwahaniaeth goliau 11 gôl yn well na Llandudno.

Ond os bydd Caerfyrddin yn colli a Llandudno yn curo Rhyl, yna Llandudno fydd yn camu i’r Chwech Uchaf.

Roedd rheolwr Derwyddon, Huw Griffiths yn amlwg wrth ei fodd ar ôl casglu triphwynt gwerthfawr Sadwrn diwethaf yn erbyn Aberystwyth gan chwalu gobeithion tîm Matthew Bishop rhag cyrraedd y Chwech Uchaf.

Unwaith eto’r penwythnos yma, bydd Derwyddon Cefn yn gobeithio sboelio’r parti a rhwystro Caerfyrddin y tro hwn rhag cyrraedd yr hanner uchaf.

Ond yr Hen Aur fydd y ffefrynnau gan eu bod heb golli dim un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon (ennill 8, cyfartal 1).

Roedd Caerfyrddin ar rediad o wyth buddugoliaeth yn olynol yn erbyn y Derwyddon cyn cael gêm gyfartal yn eu herbyn yn gynharach y tymor hwn (2-2).

Chwefror 2008 oedd y tro diwethaf i’r Derwyddon guro Caerfyrddin yn UG Cymru (3-1) – Karl Connolly yn rhwydo ddwywaith i’r Derwyddon, a Danny Thomas yn rhwydo i’r Hen Aur.

Mae’n gaddo i fod yn brynhawn cyffrous wrth i’r ras am y Chwech Uchaf dynnu at y terfyn ac mi fyddwn ni’n dod a’r diweddaraf o’r holl feysydd wrth i’r drama ddatblygu yn UG Cymru.

Derwyddon Cefn v Caerfyrddin yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 14 Ionawr am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru neu ar ein tudalen Facebook am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.