Rhagolwg: Gweriniaeth Iwerddon v Cymru

Iwerddon v Cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 24 Mar 2017, 16:38

Mi fydd carfan Chris Coleman yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon nos Wener (24/03/17) yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018. Bydd Sgorio yn darlledu’r gêm yn fyw o Stadiwm Aviva am 19:15 gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Er dyw Cymru heb golli yn eu pedair gêm ragbrofol yn yr ymgyrch hwn, dim ond chwe phwynt mae’r tîm wedi ei gasglu ar ôl tair gêm gyfartal yn olynol – gyda tîm Chris Coleman yn y trydydd safle yng nghrŵp D.

Eu gwrthwynebwyr nos Wener, Gweriniaeth Iwerddon sydd ar frig grŵp D ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf yn y gemau rhagbrofol – gan gasglu deg pwynt o’r pedair gêm agoriadol.

Mi fydd rhaid i Gymru sicrhau canlyniad yn Stadiwm Aviva nos Wener i rwystro bwlch rhag agor rhwng tîm Chris Coleman a’r ceffylau blaen yng nghrŵp D – ac i gadw unrhyw obaith o gyrraedd Rwsia flwyddyn nesaf.

Dim ond y tîm sy’n gorffen ar frig grŵp D fydd yn ennill eu lle yng Nghwpan y Byd 2018 yn Rwsia – a dyw gorffen yn ail ddim yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Gyda naw grŵp rhagbrofol wedi ei ofalu gan UEFA, corff gweinyddol Pêl-droed Ewropeaidd, dim ond yr wyth tîm sydd â’r cyfanswm pwyntiau (neu gwahaniaeth goliau) gorau yn yr ail safle sydd yn camu i’r gemau ail-gyfle.

Er taw Gweriniaeth Iwerddon sydd yn arwain y grŵp ar hyn o bryd gall Serbia (2il) gamu i’r brig gyda buddugoliaeth yn erbyn Georgia nos Wener, gyda’r gêm honno yn dechrau am 17:00.

Newyddion timau
O foddhad i gefnogwyr Cymru mae’r sêr i gyd yn holliach ac ar gael i chwarae nos Wener.

Chwaraeodd Gareth Bale 90 munud i Real Madrid nos Sadwrn diwethaf yn y fuddugoliaeth dros Athletic Bilbao yng Ngwlad y Basg.

Llwyddodd arwr yr Euros, Hal Robson-Kanu sgorio i West Brom mewn buddugoliaeth 3-1 dros Arsenal y penwythnos diwethaf ac mae Ben Davies, amddiffynnwr Tottenham Hotspur, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Serbia yn yr Hydref.

I’r Weriniaeth mae wyth chwaraewr wedi tynnu allan o’r garfan gydag anafiadau wedi’r penwythnos:
Y golwr Rob Elliot (penglin), yr amddiffynwyr Ciaran Clark (penglin) a Paul McShane; yng nghanol y cae Harry Arter (croth y goes), Wes Hoolahan (clun) a Liam Kelly (llinyn y gâr), a’r ymosodwyr David McGoldrick (penglin) a Daryl Murphy (croth ei goes).

Mae amheuaeth ynghylch â ffitrwydd y chwaraewr canol cae James McCarthy sydd wedi methu’r ddwy gêm ddiwethaf i Everton.

Benben
Cyfartal yw’r record benben rhwng y gwledydd; Cymru yn ennill pum gêm, Gweriniaeth Iwerddon yn ennill pum gêm a tair gêm gyfartal.

Y tro diwethaf llwyddodd Cymru i ennill yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oedd yn 1992, sgoriodd Mark Pembridge mewn buddugoliaeth 0-1 yn Nulyn.

Di-sgôr oedd y gêm ddiwethaf rhwng y gwledydd mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Awst 2013.

Ystadegau
Dim ond tair gôl sydd ei angen ar Gareth Bale i dorri record Ian Rush o 28 gôl i Gymru. Mae blaenwr Real Madrid wedi sgorio pedair gôl yn yr ymgyrch ragbrofol hwn gan ddringo i’r ail safle ar restr prif sgorwyr holl hanes Cymru gyda 26 gôl.

Mae Chris Gunter wedi chwarae pob eiliad i Gymru yn y gemau rhagbrofol, yn ogystal â chwarae ym mhob gêm yn Euro 2016 – gan godi i’r 4ydd safle ar restr capiau holl hanes Cymru. Dim ond 16 cap sydd angen ar Gunter i guro record Neville Southall (92).

Gweriniaeth Iwerddon v Cymru – yn fyw nos Wener yma (24/03/17) gyda’r gic gyntaf am 19:45. Rhaglen i ddechrau am 19:15 ar S4C.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn gôl geidwad Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwladol Owain Tudur Jones i weld yr ornest yn fyw o stadiwm orlawn Aviva yn Nulyn. Gyda sylwebaeth gan Nic Parry a Malcolm Allen.