Rhagolwg: Met Caerdydd v Caerfyrddin

07-IMG_6569
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 1 Tach 2017, 14:49

Bydd myfyrwyr Met Caerdydd yn croesawu Caerfyrddin i Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio am 12:30.

Daeth rhediad arbennig Met Caerdydd o bedair buddugoliaeth cynghrair yn olynol i ben y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn y Seintiau Newydd.

Mae’n edrych fel ei bod hi am fod yn dymor hir i dîm Mark Aizlewood sydd yn eistedd ar waelod y tabl ar ôl colli naw o’u 11 gêm gynghrair hyd yma.

Mae’r perfformiadau’n sicr wedi gwella i’r Hen Aur yn ddiweddar, ac fe all un buddugoliaeth ail-danio eu tymor a’u codi o’r pydew.

Gall Caerfyrddin gymryd hyder o’r ffaith eu bod erioed wedi colli gêm gynghrair yng Nghyncoed (ennill 1, cyfartal 1).

Gêm ddiwethaf:
Caerfyrddin 1-2 Met Caerdydd (07/05/17) Gemau Ail Gyfle 2016/17

Met Caerdydd v Caerfyrddin – YN FYW ar S4C, ddydd Sadwrn 4 Tachwedd am 12:30.