Rhagolwg: Serbia v Cymru

serbia v cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 11 Jun 2017, 14:20

Mi fydd Cymru yn teithio i Stadiwm Rajko Mitić, Belgrâd i herio Serbia ar gyfer eu gêm ddiweddaraf yng ngemau ragbrofol Cwpan y Byd Rwsia 2018 ar nos Sul, 11 Mehefin.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn golwr Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwladol Owain Tudur Jones ar gyfer darllediad byw o’r gêm nos Sul yma am 19:15 ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Ar ôl pedair gêm gyfartal yng nghrŵp D mae Cymru yn y trydydd safle, pedwar pwynt tu ôl i Serbia a’r Weriniaeth Iwerddon sydd yn rhannu brig y grŵp gyda 11 pwynt.

Dyw tîm Chris Coleman heb golli yn yr ymgyrch hyd yn hyn, ond mi fydd rhaid i Gymru ddechrau ennill eu gemau er mwyn cadw unrhyw obaith o ennill eu lle yn Rwsia blwyddyn nesaf.

Dim ond y tîm sy’n gorffen ar frig grŵp D fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2018 yn Rwsia. Mi fydd yr wyth tîm gorau sydd yn gorffen yn yr ail safle o’r naw grŵp rhagbrofol yn camu i’r gemau ail-gyfle – felly dyw gorffen yn yr ail safle ddim yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Fydd rhaid i Gymru sicrhau canlyniad yn erbyn Serbia i rwystro bwlch rhag agor rhwng tîm Chris Coleman a’r ceffylau blaen yng Ngrŵp D.

DUBLIN, REPUBLIC OF IRELAND - Friday, March 24, 2017: Wales' manager Chris Coleman before the 2018 FIFA World Cup Qualifying Group D match against Republic of Ireland at the Aviva Stadium. (Pic by David Rawcliffe/Propaganda)

Newyddion tîm
Mi fydd rhaid i Cymru ymdopi heb dawn Gareth Bale ar gyfer y daith i Serbia dydd Sul gan fod y blaenwr wedi ei wahardd am un gêm ar ôl casglu dau gerdyn melyn yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn.

Mae’r amddiffynnwr Neil Taylor hefyd wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch yn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Iwerddon.

Bale sydd wedi sgorio pedair o’r wyth gôl y mae Cymru wedi rhwydo yn eu pum gêm ragbrofol agoriadol. Llwyddodd Bale sgorio yn erbyn Serbia yn ôl ym mis Tachwedd, ond i Mitrovic rwydo ar ôl 85 munud i rwystro Cymru rhag gipio’r triphwynt mewn gêm gyfartal 1-1.

CARDIFF, WALES - Saturday, November 12, 2016: Wales' Gareth Bale scores the first goal against Serbia during the 2018 FIFA World Cup Qualifying Group D match at the Cardiff City Stadium. (Pic by Alun Roberts/Propaganda)

Mae Chris Coleman wedi enwi pump chwaraewr sydd heb ennill cap yn ei garfan ar gyfer y gêm – Joe Walsh (MK Dons), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton), Lee Evans (Wolves) a Ben Woodburn (Lerpwl).

Benben
Dyw Cymru erioed wedi curo Serbia / Serbia & Montenegro na Iwgoslafia gan chwarae 9, colli 5 a 4 gêm gyfartal.

Gêm gyfartal 1-1 oedd hi yng Nghaerdydd yn ôl ym mis Tachwedd gyda Bale yn rhwydo i Gymru cyn i Aleksander Mitrovic unioni’r sgôr i Serbia.

Yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 enillodd Serbia’r ddwy gêm rhwng y gwledydd – 6-1 yn Novi Sad a 0-3 yng Nghaerdydd.

Ers colli 0-3 yn erbyn Serbia yn 2013 dim ond unwaith mae Cymru wedi colli mewn gêm ragbrofol, gan chwarae 17, ennill wyth, wyth gêm gyfartal a cholli un yn erbyn Bosnia-Herzegovina (2-0) mewn gêm gofiadwy lle cafodd Cymru’r cadarnhad eu bod wedi sicrhau eu lle yn Ewro 2016.

Un i’w wylio: Dušan Tadić
Mae Dušan Tadić wedi sgorio pedair a chreu saith gan ymnweud â 11 o’r 12 gôl y mae Serbia wedi sgorio yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn.

Sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Cymru yn Novi Sad (6-1) yn 2012 ac erbyn hyn mae’r chwaraewr canol cae ymosodol wedi ennill 43 cap gan sgorio 11 gôl i Serbia.

LIVERPOOL, ENGLAND - Wednesday, January 25, 2017: Southampton's Dusan Tadic in action against Liverpool during the Football League Cup Semi-Final 2nd Leg match at Anfield. (Pic by David Rawcliffe/Propaganda)

Mae Aleksandar Mitrovic hefyd yn chwaraewr i gadw llygaid ar. Sgoriodd yr ymosodwr pedair gôl yn ei dair gêm ryngwladol ddiwethaf, gan gynnwys gôl yn erbyn Cymru yn ôl ym mis Tachwedd 2016.

Sylwadau Owain Tudur Jones
Mae cyn chwaraewr pêl-droed Cymru Owain Tudur Jones yn credu y bydd Aaron Ramsey yn barod i gamu i’r adwy fel prif fygythiad Cymru yn erbyn Serbia, yn absenoldeb Gareth Bale.

Dywedodd Tudur Jones, a enillodd saith gap dros ei wlad: “Mae gwaharddiad Gareth Bale yn amlwg yn ergyd anferth. Fo ydi canolbwynt y tîm, fo ydi’r ‘go-to guy’. Mae’n rhaid i ni ddelio â’i absenoldeb ac addasu. Y cwestiwn mawr ydi, pwy sy’n cymryd lle Gareth Bale? Rydan ni ‘di bod heb chwaraewyr mawr cyn rŵan, felly ‘di o ddim byd newydd. Y broblem ydi fod neb yn gwneud beth mae Gareth Bale yn ei wneud.

“Fydd yn rhaid i rywun arall fod yn ganolbwynt ar ein hymosod a chynnig sbarc o greadigrwydd, a dw i’n meddwl mai Aaron Ramsey fydd y person yna. Mae o’n chwarae’n wych ar y funud ac mi fydd o’n llawn hyder ar ôl sgorio’r gôl i ennill Cwpan yr FA i Arsenal yn ddiweddar. Tu ôl iddo fydd y ddau Joe, gyda Sam Vokes a Hal Robson-Kanu gyda’i gilydd yn yr ymosod, felly mi fydd na le i rywun arall fod hefo Aaron, tu ôl i’r ddau ymosodwr. Efallai Tom Lawrence fydd y chwaraewr yno, ar ôl iddo gael tymor i’w gofio hefo Ipswich.”

Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn golwr Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwladol Owain Tudur Jones ar gyfer darllediad byw o’r gêm rhwng Serbia a Cymru nos Sul yma am 19:15, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Sgorio Rhyngwladol: Serbia v Cymru
Nos Sul 11 Mehefin 7.15, S4C
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill