Rhagolwg: St. Mirren v Y Seintiau Newydd

St Mirren v The New Saints
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 15 Feb 2017, 12:49

Y penwythnos yma mi fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd yn teithio i’r Alban i herio St. Mirren yn rownd gynderfynol Cwpan Her Irn-Bru gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio ddydd Sul am 15:45.

Mae Cwpan Her yr Alban yn bodoli ers 1990/91 pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf i ddathlu 100 mlwyddiant ers ffurfio’r gynghrair bêl-droed Albanaidd.

Yn wreiddiol, cystadleuaeth i glybiau cynghreiriau’r Alban o dan yr uwch gynghrair oedd hi, ond eleni mae’r gystadleuaeth wedi ei newid i gynnwys 12 tîm dan20 clybiau Uwch Gynghrair Yr Alban, pedwar tîm yr un o’r Highland League a’r Lowland League (clybiau rhan amser Yr Alban), a dau glwb yr un o UG Gogledd Iwerddon ac UG Cymru.

Ymunodd Y Seintiau Newydd a’r Bala y gystadleuaeth yn y bedwaredd rownd, gyda’r Seintiau yn ennill 1-3 yn erbyn y tîm o Adran 2 yr Alban, diolch i hat-tric Greg Draper.

Aeth hi ddim cystal i’r Bala gollodd 2-4 gartref yn erbyn Alloa Athletic.

Yn y bedwaredd rownd teithiodd YSN i Livingston gan gasglu buddugoliaeth swmpus (0-3) yn erbyn y clwb o Adran 1 Yr Alban.

Mae eu gwrthwynebwyr y penwythnos yma, St. Mirren, un gynghrair yn uwch na Livingston, ond yn stryffaglu ar waelod tabl Pencampwriaeth yr Alban ar ôl ennill dim ond dwy o’u 23 gêm gynghrair y tymor yma.

Mae St. Mirren yn cael eu hadnabod fel y ‘Buddies’ neu’r ‘Saints’… felly gellir dweud ein bod ni am weld y Seintiau yn herio’r Seintiau y penwythnos!

Rangers yw deiliaid y gwpan ar ôl curo Peterhead yn rownd derfynol 2015/16.

Roedd na 54 clwb yn cystadlu eleni, ond bellach dim ond pedwar clwb sydd ar ôl yn llygadu lle yn y rownd derfynol gyda Queen of the South yn wynebu Dundee Utd yn y rownd gynderfynol arall.

Ers ffurfio’r gystadleuaeth 27 o flynyddoedd yn ôl yn nhymor 1990/91, Mae St Mirren wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban ddwywaith:
1993/94: Colli – Falkirk 3-0 St Mirren
2005/06: Ennill – St Mirren 2-1 Hamilton Academicals

Daeth rhediad di-guro’r Seintiau i ben y penwythnos diwethaf wrth golli 1-0 yng Nghaerfyrddin ar ôl dim colled yn eu 31 gêm yn 2016/17 cyn hynny (ennill 30, cyfartal 1).

Er waetha’r golled, mae’r Seintiau yn parhau i fod 21 pwynt yn glir ar frig tabl UG Cymru a dim ond angen pedwar pwynt o’u wyth gêm sy’n weddill i sicrhau’r bencampwriaeth.

Mae’r clwb o Groesoswallt mewn safle cryf i gasglu pedwar tlws y tymor yma gan eu bod ar frig UG Cymru, ymlaen i rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru, ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac eisoes wedi sicrhau Cwpan y Gynghrair.

Mae St. Mirren wedi trechu Albion Rovers, Hibernian ac Ayr Utd i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Her Irn-Bru ond Y Seintiau yw’r ffefrynnau i gyrraedd y rownd derfynol.

Mae’r Seintiau eisoes wedi sicrhau £10,250 am gyrraedd y rownd gynderfynol, ond gall y swm godi i £12,750 os awn nhw i’r ffeinal, a chodi eto i £17,750 os y cawn nhw eu coroni’n enillwyr.

St. Mirren v Y Seintiau Newydd yn FYW ar S4C ddydd Sul, 19 Chwefror am 15:45.