Rhagolwg: Y Bala v Bangor

Bala v Bangor
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 3 Feb 2017, 11:01

Brynhawn Sadwrn mi fydd Y Bala yn croesawu Bangor i Faes Tegid ar benwythnos cyntaf ail ran y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru, a’r cyfan yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Gyda dim ond deg gêm yn weddill yn y tymor mae hi’n gaddo i fod yn dipyn o ras i sicrhau pêl-droed Ewropeaidd yr haf yma.

Mae Cei Connah yn dechrau ail ran y tymor driphwynt yn glir o’r Bala yn yr ail safle, ac yn gwybod y byddai dal eu gafael ar yr ail safle yn sicrhau eu lle yn Ewrop am yr ail dymor yn olynol.

Pe bae’r Seintiau Newydd yn ennill y gynghrair ac yn ennill Cwpan Cymru yna mi fydd y tîm sy’n 3ydd yn cael lle sicr yn Ewrop hefyd, felly gall gorffen yn 3ydd fod yn ddigon i gyrraedd Ewrop fel brofodd Llandudno y tymor diwethaf.

Mi fydd Y Bala (3ydd) a Bangor (4ydd) yn awyddus i sicrhau lle yn Ewrop eleni wrth gystadlu am yr 2il a’r 3ydd safle.

Dyw Bangor heb ennill dim un o’u saith gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Y Bala ar Faes Tegid (5 UGC, 2 Cwpan y Gynghrair) ers Chwefror 2012.

Roedd na 857 yn gwylio’r gêm ddiwethaf rhwng y clybiau, sef y gêm gyntaf ar gae 3G newydd Maes Tegid.

Dyw’r Bala ond wedi colli un o’u 11 gêm ar eu cae 3G newydd, ac hynny yn erbyn Alloa Athletic (2-4) mewn gêm Cwpan Irn Bru nôl ym mis Hydref.

Faint o golled bydd y ffaith bod Brayden Shaw wedi dychwelyd i Accrington Stanley ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Bangor?

Sgoriodd Shaw bedair gôl i Fangor (3 UGC, 1 Cwpan Cymru), creodd saith gôl yn UGC (prif grewr Bangor) ac enillodd wobr ‘Chwaraewr y Mis’ Rhagfyr.

Nid Shaw yw’r chwaraewr cyntaf i greu argraff ar ôl ymuno â Bangor ar fenthyg y tymor yma yn dilyn cyfnod Jordan Davies oedd ar fenthyg gyda’r Dinasyddion o Wrecsam ar ddechrau’r tymor ac sydd bellach wedi arwyddo i Brighton & Hove Albion yn y Bencampwriaeth.

Mae Bangor wedi arwyddo 10 chwaraewr yn ystod y ffenestr drosglwyddo, yn cynnwys y blaenwr profiadol Gary Taylor-Fletcher.

Rhwydodd Fletcher yn ei ymddangosiad cyntaf i’r Dinasyddion ac mi fydd yn awyddus i berfformio o flaen camerau byw Sgorio y penwythnos yma.

Gemau diwethaf:
Y Bala 1-1 Bangor (23/09/16)
Bangor 2-0 Y Bala (27/08/16)

Y Bala v Bangor yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 4 Chwefror am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru neu ar ein tudalen Facebook am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.