Rhagolwg: Y Bala v Y Seintiau Newydd

trail board
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 7 Dec 2017, 10:57

Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn teithio i Faes Tegid i wynebu’r Bala yn fyw ar Sgorio ar ddydd Sadwrn gyda’r rhaglen yn dechrau am 17:00 ar S4C.

Y Bala v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 17:30 (S4C)
Mae’r Seintiau yn ôl ar frig tabl UG Cymru ac ar rediad o chwe buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mae’r pencampwyr wedi sgorio 14 gôl yn eu tair gêm ddiwethaf, wedi sicrhau lle yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, camu i 4edd rownd Cwpan Cymru ac agor bwlch ar gopa’r cynghrair.

Ond mae hi’n gyfnod sigledig i’r Bala sydd wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf gan ildio naw gôl ac heb sgorio unwaith (Ban 5-0 Bala, Aber 4-0 Bala).

Cafodd criw Colin Caton eu gyrru allan o Gwpan Cymru ar y cynnig cyntaf yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf, a bydd angen i’r Bala berfformio tipyn yn well os am osgoi cweir arall ar Faes Tegid ddydd Sadwrn.

Gêm ddiwethaf:
Y Seintiau Newydd 3-0 Y Bala (19/08/17)