Rhagolwg: Y Drenewydd v Llandudno

DREWNEWYDD V LLANDUDNO
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 17 Mar 2017, 12:26

Brynhawn Sul mi fydd Y Drenewydd yn croesawu Llandudno i Barc Latham yn y ras i gyrraedd gemau ail gyfle UG Cymru gyda’r gic gyntaf am 15:00 yn fyw ar S4C.

Gall Y Drenewydd gymryd naid sylweddol tuag at sicrhau lle yn y gemau ail gyfle os y medran nhw guro Llandudno brynhawn Sul a mynd pum pwynt yn glir yn y 7fed safle.

Casglodd Jason Oswell ei ail hat-tric o’r tymor y penwythnos diwethaf wrth i’r Drenewydd drechu Aberystwyth (0-4) gan sicrhau eu pumed buddugoliaeth yn olynol ers yr hollt.

Mae tîm Chris Hughes wedi sleifio o’r gwaelodion i frig y Chwech Isaf, ac yn y cyfamser mae Jason Oswell hefyd wedi sleifio i frig rhestr prif sgorwyr (16).

Bydd Llandudno’n siomedig o fod wedi ildio’n hwyr yn erbyn Y Rhyl nos Wener diwethaf gan ollwng pwyntiau yn y ras am y 7fed safle.

Does neb wedi sgorio llai o goliau na Llandudno yn UGC y tymor hwn (24 gôl mewn 27 gêm).

Mae Jason Oswell (Drenewydd) wedi rhwydo mwy o goliau cynghrair y tymor hwn na pum prif sgoriwr Llandudno gyda’i gilydd.

Roedd hi’n edrych yn ddu ar Y Drenewydd ddechrau mis Rhagfyr gyda’r clwb i lawr yn safleoedd y cwymp ac yn wynebu syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ond bellach mae’r Robiniaid ar rediad o saith gêm gynghrair heb golli, ac wedi sgorio 18 gôl yn eu chwe gêm ddiwethaf (3 gôl y gêm).

Mae’n bosib mae trobwynt tymor Y Drenewydd oedd eu gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Ionawr ddaeth a rhediad o 27 buddugoliaeth yn olynol i ben i’r Seintiau wedi i Jamie Price rwydo o gic rydd yn eiliadau olaf y gêm i’w gwneud hi’n 3-3.

Mae’r Drenewydd wedi ennill pob un o’u pum gêm ers hynny.

Sicrhaodd Llandudno eu lle yn Ewrop y flwyddyn diwethaf ar ôl gorffen yn 3ydd yn eu tymor cyntaf yn UG Cymru, ond bydd rhaid i dîm Alan Morgan drechu’r Drenewydd brynhawn Sul os am gadw gobaith gwirioneddol o gyrraedd y gemau ail gyfle eleni.

Gemau diwethaf:
Llandudno 1-2 Y Drenewydd (04/02/17)
Y Drenewydd 0-0 Llandudno (29/10/16)
Llandudno 0-0 Y Drenewydd (10/09/16)

Y Drenewydd v Llandudno yn FYW ar S4C ddydd Sul, 19 Mawrth am 14:45.