Rhestr fer: Chwaraewr Ifanc y Tymor

CyR2MLiXEAEUBQQ
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 17 May 2017, 14:54

Mae tri o chwaraewyr wedi eu henwi ar restr fer Chwaraewr Ifanc y Tymor UGC 2016/17.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng ngwobrau’r tymor ar 20 Mai.

Anthony StephensY Bala
Cafodd y cefnwr chwith, 23 mlwydd oed ei wthio ymhellach i fyny’r cae gan Colin Caton ar gyfer ail ran y tymor ac mae Stephens wedi perfformio’n gadarn yng nghanol cae i’r Bala.

Yn ogystal â rhwydo pedair gôl gynghrair, Stephens oedd prif grêwr goliau’r Bala y tymor gyda wyth ‘assist’ yn UG Cymru.

Henry JonesBangor
Mae hi wedi bod yn dymor cyntaf rhagorol i Henry Jones yn UG Cymru gyda’r gŵr ifanc o Abertawe yn serennu yng nghanol cae i’r Dinasyddion eleni.

Gyda 14 gôl ym mhob cystadleuaeth, Henry Jones yw prif sgoriwr y clwb yn 2016/17, ac yntau sydd hefyd wedi creu’r nifer fwyaf o goliau gyda wyth ‘assist’ yn UG Cymru.

James JoyceLlandudno
Mae cefnwr chwith Llandudno, James Joyce wedi ei enwi ar restr fer Chwaraewr Ifanc y Tymor am yr ail flwyddyn yn olynol.

Er bod yn absennol am chwe gêm ola’r tymor oherwydd anaf mae Joyce yn cael ei le ar y rhestr ar ôl rhwydo ddwywaith o’r amddiffyn a chreu tair gôl yn UG Cymru.

Enillwyr diweddar:
2015/16 – James Murphy (Airbus UK)
2014/15 – Sean Miller (gap Cei Connah)
2013/14 – Sam Finley (Y Seintiau Newydd)
2012/13 – Ryan Fraughan (Y Seintiau Newydd)
2011/12 – Kai Edwards (Castellnedd)