Sgorio

la liga generic
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 23 Jan 2017, 10:09

Ymunwch â Morgan Jones am uchafbwyntiau rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG, sef Cwpan y Cynghrair, rhwng Y Seintiau Newydd a’r Barri, y clybiau mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru. Yn Sbaen, mae hi’n benwythnos olaf hanner cyntaf tymor La Liga a bydd Eibar yn herio Barcelona tra bo Real Madrid yn croesawu Malaga i’r Bernabeu. Sgorio am 6:30 ar S4C.