Sgorio

la liga generic
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 17 Apr 2017, 09:27

Ymunwch â Morgan Jones am uchafbwyntiau holl gemau La Liga yn Sbaen ac wythnos olaf ond un tymor Uwch Gynghrair Cymru Dafabet. Sgorio am 6:30 nos Lun ar S4C.

Wythnos cyn y clasico yn Sbaen mae Barcelona gartre’ yn erbyn Real Sociedad sydd yn llygadu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr, tra bo Real Madrid ar daith i Gijon i herio Sporting sydd yn brwydro i aros yn La Liga.

Mae yna gemau allweddol yn y ras am yr ail safle a sicrwydd o le yn Ewrop, y seithfed safle ac ail-gyfle Ewropeaidd, ynghyd â safleoedd y cwymp yn Uwch Gynghrair Cymru Dafabet.

Mae’r Bala yn teithio i Lannau Dyfrdwy i wynebu gap Cei Connah a gallai’r gemau rhwng Airbus UK – Y Drenewydd, Derwyddon Cefn – Llandudno ac Aberystwyth a’r Rhyl fod yn dyngedfennol i bob clwb yn yr hanner isaf.