SGORIO

IMG_4985
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 8 Oct 2017, 12:04

Ymunwch â Morgan Jones am holl gyffro a goliau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru JD. Tra bo’r Seintiau Newydd yn herio Elgin yn nhrydedd rownd Cwpan Irn-Bru, mae gan Gei Connah benwythnos segur, gan roi cyfle i’r gweddill fanteisio yn y cynghrair. Sgorio, dydd Llun am 5:35 ar S4C.

Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru
Met Caerdydd 1–0 Llandudno
Prestatyn 3–2 Caerfyrddin
Y Bala 0–1 Bangor
Aberystwyth 0–0 Y Barri
Derwyddon Cefn 0–0 Y Drenewydd