Sgorio, Dydd Llun am 5:35

07_09_17_Vs Prestatyn 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 11 Sep 2017, 10:42

Ymunwch â Morgan Jones am uchafbwyntiau’r penwythnos wrth i Uwch Gynghrair Cymru JD ail-ddechrau wedi’r saib rhyngwladol. Prestatyn yw’r ymwelwyr â Pharc Maesdu wrth i Landudno anelu at ymestyn eu record gant y cant, tra bo Cei Connah benben â’r Bala gyda Bangor gartref yn erbyn Caerfyrddin, sydd ar waelod y domen. Sgorio, nos Lun am 5:35 ar S4C.

Canlyniadau
Y Barri 2–0 Y Drenewydd
Bangor 1–0 Caerfyrddin
Aberystwyth 0–2 Met Caerdydd
Cei Connah 1–0 Y Bala
Y Seintiau Newydd 4–0 Derwyddon Cefn
Llandudno 2–2 Prestatyn