Sgorio, nos Lun am 6:30

la liga messi ronny
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 15 May 2017, 11:11

Ymunwch â Morgan Jones am y gorau o Sbaen a Chymru wrth i Real Madrid a Barcelona frwydro ar frig La Liga a’r tymor domestig yng Nghymru dod i’w derfyn gyda rownd derfynol y gemau ail gyfle. Sgorio, nos Lun am 6:30 ar S4C.

Mi roedd hi’n gêm gyffrous rhwng Dinasyddion Bangor a myfyrwyr Met Caerdydd ar gae Nantporth dydd Sadwrn diwethaf, gyda Dean Rittenberg yn cipio unig gôl y gêm i yrru’r Dinasyddion i rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa y tymor nesaf.

Yn Sbaen mae’r ras am y bencampwriaeth yn poethi gyda Los Blancos a Barca yn gyfartal ar bwyntiau ar y brig. Llwyddodd y ddau ennill dros y penwythnos, gyda Real Madrid yn trechu Sevilla 4-1 a Barcelona yn curo Las Palmas oddi cartref 1-4.

O fantais i dîm Zinedine Zidane yw’r gêm wrthgefn sydd i’w chwarae oddi cartref yn Celta Vigo nos Fercher – felly mi fydd y bencampwriaeth yn cael ei benderfynu yn rownd olaf gemau tymor 2016/17 penwythnos nesaf.

Canlyniadau La Liga
Alavés 3-1 Celta Vigo
Athletic Bilbao 1-1 Leganés
Eibar 0-1 Sporting Gijón
Las Palmas 1-4 Barcelona
Real Betis 1-1 Atlético Madrid
Real Madrid 4-1 Sevilla
Real Sociedad 2-2 Malaga
Villarreal 0-0 Deportivo La Coruña
Espanyol 0-1 Valencia
Osasuna 2-1 Granada