Sgorio, Prynhawn Llun am 17:35

BA8I3688
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 14 Aug 2017, 10:38

Mae’r tymor pêl-droed yn ôl ac mae Sgorio yn ôl i ddathlu penwythnos pen-blwydd Uwch Gynghrair Cymru JD yn 25 oed. Ymunwch â Morgan Jones i ddathlu’r achlysur gyda gwledd o goliau a’r holl ddigwyddiadau allweddol wrth i’r Barri ddychwelyd i rengoedd prif gynghrair Cymru gyda gêm gartref yn erbyn Aberystwyth ar Barc Jenner. Holl uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru prynhawn Llun am 17:35 ar S4C.

Canlyniadau
Y Barri 1–1 Aberystwyth
Derwyddon Cefn 0–3 Met Caerdydd
Llandudno 3–0 Caerfyrddin
Y Bala 3–0 Y Drenewydd
Prestatyn 0–4 Cei Connah
Bangor 5–2 Y Seintiau Newydd

Gôl ddadleuol Jonny Spittle yn achub pwynt i Aberystwyth yn erbyn Y Barri ar Barc Jenner yn gêm fyw Sgorio dros y penwythnos.