Stadiwm Prifysgol Bangor i gynnal Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD 2016-17

International Football – Friendly – Wales U16 v Poland U16
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 19 Mar 2017, 14:22

Bydd Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD yn cael ei chwarae yn Stadiwm Prifysgol Bangor ar ddydd Sul, 30 o Ebrill am 14:00.

Mi fydd cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn croesawu enillwyr rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 1 Ebrill.

Mae Gap Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm Prifysgol Bangor ar gyfer rownd gynderfynol cyntaf y gystadleuaeth, gyda Chaernarfon a’r Bala yn brwydro am le yn y Rownd Derfynol yn Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl.

Mwy o fanylion i ddilyn maes o law.