Wilson yn cymryd lle Lawrence yng ngharfan Cymru

lawrence-wilson
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 20 Mar 2017, 12:50

Mae chwaraewr canol Ipswich, Tom Lawrence, wedi tynnu yn ôl o garfan Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oherwydd anaf.

Bydd ei le yn y garfan yn cael ei gymryd gan Harry Wilson, sy’n ymuno â’i gyd chwaraewr Lerpwl, Ben Woodburn, yng ngharfan Chris Coleman.

Er cael ei eni yn Lloegr mae Woodburn, sy’n 17, yn gymwys i Gymru oherwydd taid Cymreig ac mae’r chwaraewr ymosodol eisioes wedi serenu i dimau dan-17 a dan-19 Cymru.

Ers dod y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio dros dîm cyntaf Lerpwl yn rownd yr wyth olaf o Gwpan EFL yn erbyn Leeds ym mis Tachwedd mae adroddiadau papur newydd wedi crybwyll fod Lloegr hefyd yn cadw llygaid ar y seren ifanc.

Ond roedd Coleman yn sydyn iawn i wfftio’r awgrym mai’r diddordeb gan Loegr oedd yn gyfrifol am gynnwys Woodburn yn y prif garfan.

Fideo: Ben Woodburn yn serenu i Gymru dan-19 yn erbyn Lwcsembwrg

“Mae o yma ar sail ei allu,” meddai Coleman. “mae o wedi bod yn rhan o’n system ni ers yn 13 mlwydd oed. Mae pobl wedi dweud bod angen i ni edrych ar Ben Woodburn ond ‘dy ni wedi bod yn edrych ar Ben ers pum mlynedd.”

“Rydym ni’n gweld Ben fel chwaraewr rhyngwladol i Gymru – ‘dy ni wedi meddwl hynny erioed.”

Mae amddiffynnwr MK Dons, Joe Walsh, hefyd yn cael ei alw i’r garfan yn dilyn anaf i Paul Dummett o Newcastle tra bod Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi eu cynnwys ar ôl dychwelyd i’w clybiau yn dilyn anafiadau.

Mae Coleman hefyd wedi galw ar y chwaraewyr ifanc, Tom Lawrence a Tom Bradshaw.

“Mae Ben (Woodburn), Tom Lawrence a Tom Bradshaw wedi bod yn curo ar y drws,” meddai Coleman. “Mae Tom (Bradshaw) wedi bod efo ni o’r blaen a dwi wedi fy mhlesio gydag o. Dwi wedi ei wylio sawl gwaith gyda Barnsley ac mae o wedi bod yn gwneud yn dda iawn yna.”

A cadarnhaodd Coleman fod asgellwr Barnsley, Marley Watkins, ar y rhesr wrth gefn ar gyfer y gêm yn Nulyn.

“Mae’r chwaraewyr yma wedi haeddu galwad i’r tîm cenedlaethol ar gyfer un o’r gemau mwyaf yn yr ymgyrch. Mae’n gêm anferth ond dwi heb edrych ar y garfan a meddwl nad ydi hon yn gêm lle dwi eisiau arbrofi, dwi wedi dewis y chwaraeyr gorau sydd gen i ar gyfer yr her sydd o’n blaenau.”


Carfan Cymru:
Golwyr: Wayne Hennsessey (Crystal Palace), Danny Ward (Huddersfield Town ar fenthyg), Owain Fon Williams (Inverness Caledonian Thistle).

Amddiffyn: Ben Davies (Tottenham), James Chester (Aston Villa), James Collins (West Ham United), Joe Walsh (MK Dons), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Neil Taylor (Aston Villa), Ashley Williams (Everton).

Canol Cae: Joe Allen (Stoke City), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Caerlŷr), Harry Wilson (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Shaun MacDonald (Wigan Athletic), Aaron Ramsey (Arsenal).

Ymosodwyr: Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Tom Bradshaw (Barnsley), Sam Vokes (Burnley), Ben Woodburn (Lerpwl).

Bydd Gweriniaeth Iwerddon v Cymru yn FYW ar S4C nos Wener 24 Mawrth