Y Bala, Bangor a Cei Connah yn darganfod eu gwrthwynebwyr Ewropeaidd

cd9
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 19 Jun 2017, 11:15

Ar brynhawn Llun, Mehefin y 19eg mi dynnwyd yr enwau o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol cyntaf Cynghrair Europa 2017/18.

Lyngby BK v Bangor
Y Bala v FC Vaduz
Cei Connah v HJK Helsinki

Bydd Bangor yn chwarae oddi cartref yn y cymal cyntaf yn erbyn Lyngby Boldklub o Denmarc, a dyma’r tro cyntaf erioed i Lyngby gystadlu yng Nghynghrair Europa ar ôl gorffen yn 3ydd yn SuperLiga Denmarc yn 2016/17.

Bydd enillwyr Cwpan Cymru, Y Bala yn herio enillwyr Cwpan Liechtenstein – FC Vaduz.

FC Vaduz yw unig glwb proffesiynol Liechtenstein ac felly maent yn cystadlu yng nghynghrair eu cymdogion yn Y Swistir, ond yn dilyn tymor siomedig y flwyddyn diwethaf mi fyddan nhw’n syrthio o’r brif adran.

Mi fydd hi’n her a hanner i Cei Connah yn erbyn HJK Helsinki, orffenodd yn 2il yn Uwch Gynghrair Y Ffindir (Veikkausliiga) yn 2016.

Fe lwyddodd Cei Connah i gyrraedd yr ail rownd ragbrofol y tymor diwethaf ar ôl curo Stabaek (Norwy) yn y rownd gyntaf.

Cymal Cyntaf29/06/17
Cei Connah v HJK Helsinki (Stadiwm Prifysgol Bangor)
Y Bala v FC Vaduz (Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl)
Lyngby BK v Bangor (Lyngby Stadion, Denmarc)

Ail Gymal06/07/17
HJK Helsinki v Cei Connah (Telia 5G Areena, Y Ffindir)
FC Vaduz v Y Bala (Rheinpark Stadion, Liechtenstein)
Bangor v Lyngby BK (Stadiwm Prifysgol Bangor)

13/07/17 – UEL R2 (cymal 1af)
20/07/17 – UEL R2 (2il gymal)