Y Bala yn cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes

Cwpan Cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 1 Apr 2017, 18:58

Mi fydd Y Bala yn wynebu’r Seintiau Newydd ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru 2016/17 ar ôl trechu Caernarfon 1-3 yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Yn gynharach ddydd Sadwrn (Ebrill 1af) llwyddodd Y Seintiau Newydd gamu i’r rownd derfynol ar ôl curo gap Cei Connah 0-3 ar gae Nantporth, Bangor diolch i goliau gan Adrian Cieslewicz, Aeron Edwards a Jamie Mullen.

Dyma’r bedwaredd tro yn olynol i’r Seintiau Newydd gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl ennill y gwpan y tri tymor diwethaf yn olynol.

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru hefyd yn gobeithio cyflawni’r trebl ddomestig am y trydydd tymor yn olynol.

Llwyddodd Y Bala i gyrraedd y rownd derfynol diolch i goliau gan Kieran Smith a dwy gôl gan Lee Hunt, er i dîm Colin Caton ildio gyntaf wrth i Stuart J. Jones rwydo i gôl ei hun.

Dyma’r tro cyntaf i’r Bala gyrraedd y rownd derfynol yn hanes y clwb – er mi fydd hi’n her yn y rownd derfynol gan nad yw’r Bala erioed wedi curo’r Seintiau Newydd mewn unrhyw gystadleuaeth.

Bydd rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael ei gynnal ar gae Stadiwm Prifysgol Bangor Nantporth ar Ebrill 30eg.