Y Drenewydd v Llandudno

face
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 14 Dec 2017, 13:03

Y Drenewydd yn croesawu Llandudno i Barc Latham nos Iau (14 Rhagfyr) o flaen camerau Sgorio ar gyfer y gêm fyw ar Facebook. Y gic gyntaf yn fyw ar Facebook.com/sgorio am 19:45.

Y Drenewydd v Llandudno | Nos Iau – 19:45
Mae’r Drenewydd yn agos iawn i safleoedd y cwymp, gyda gwahaniaeth goliau yn unig yn cadw tîm Chris Hughes uwchben Aberystwyth a Phrestatyn – y tri clwb ar 15 pwynt.

Llwyddodd Llandudno i guro’r Drenewydd 2-1 yn Stadiwm Giant Hospitality nôl yn yr Hydref yn gêm gyntaf Alex Gibson fel rheolwr dros-dro Llandudno wedi’r clwb ffarwelio âg Alan Morgan wythnos yng nghynt.

Dyw Llandudno ond wedi sicrhau un buddugoliaeth yn eu pedair gêm ddiwethaf ers sicrhau llofnod Iwan William fel rheolwr parhaol – yr hyn oddi cartref yn erbyn Prestatyn (1-3) – gan golli dwy ag un gêm gyfartal.

Os yw’r Drenewydd yn ennill nos Iau mi fydd tîm Chris Hughes yn dringo i’r 8fed safle uwchben Y Barri.

Mae’r tair gêm ddiwethaf rhwng Y Drenewydd a Llandudno ar Barc Latham wedi gorffen yn gyfartal – (1-1, 0-0. 2-2).

Y Drenewydd v Llandudno, yn fyw ar Facebook Sgorio am 19:45 nos Iau.