Y Seintiau i herio Europa FC yn Nghynghrair y Pencampwyr

Street Games
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 27 Jun 2017, 08:10

Mi fydd y Seintiau Newydd yn croesawu Europa FC i Neuadd y Parc ar gyfer y cymal cyntaf ar 27 Mehefin gyda’r gic gyntaf am 19:00.

Ar fore Llun, Mehefin y 19eg mi dynnwyd yr enwau o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2017/18.

Ni fydd yr ail gymal yn cael ei chynnal yn Gibraltar gan nad oes stadiwm addas yno, felly mi fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Mhortiwgal ar Gorffennaf y 4ydd neu’r 5ed.

Bydd yr enillwyr yn herio HNK Rijeka o Croatia yn yr ail rownd ragbrofol.

Mae’r Seintiau Newydd wedi llwyddo i gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ym mhob un o’r pum tymor diwethaf.

Europa FC – Gibraltar
Yn dilyn 14 pencampwriaeth yn olynol i glwb Lincoln Red Imps, daeth Europa FC a’r rhediad i ben eleni drwy ennill Uwch Gynghrair Gibraltar am y tro cyntaf ers 1952.

Enillodd Europa FC eu rownd ragbrofol cyntaf yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf wrth drechu FC Pyunik o Armenia cyn colli yn erbyn AIK Solna o Sweden yn yr ail rownd ragbrofol, sef y clwb yrrodd Y Bala allan o’r gystadluaeth.

Ymysg chwaraewr rhyngwladol carfan Europa FC mae’r gŵr o Ghana, Ibrahim Ayew, sydd yn hanner brawd i Andre Ayew (West Ham) a Jordan Ayew (Abertawe).

27/06 – Y Seintiau Newydd v Europa FC – Neuadd y Parc, Croeswallt (19:00)
04/07 – Europa FC v Y Seintiau Newydd – Estadio Algarve, Faro, Portiwgal (18:30)