Y Seintiau Newydd trwodd i rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban

BalaTown_09_1709_8712e-640×360
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 12 Nov 2017, 18:01

Llwyddodd tîm Scott Ruscoe i guro Queen of the South ar giciau o’r smotyn 4-3 gyda golwr Y Seintiau, Paul Harrison, yn sgorio cyn arbed cic olaf yr Albanwyr i yrru pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru i rownd nesaf y gystadleuaeth.

Paul Harrison yw arwr Y Seintiau Newydd heno wrth i’r golwr sgorio cic o’r smotyn cyn arbed siot Andrew Stirling i yrru pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru i rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban.

Mae’r Seintiau Newydd y nawr yn ymuno â Dumbarton, Inverness Caledonian Thistle a’r Crusaders yn rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban.

Mi fydd yr enwau yn dod allan o’r het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban ar ddydd Mawrth, 14/11/17.

Mi roedd hi’n gêm gyffrous ar Neuadd y Parc er y diffyg goliau. James McFadden yn taro’r trawst i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf a Greg Draper yn gwastraffu cyfle gwych I’r Seintiau gan ergydio dros y trawst yn yr ail hanner.

Wedi 90 munud o chwarae ac amser ychwanegol di-sgôr roedd rhaid i’r gêm fynd i giciau o’r smotyn. Methodd y naill dîm eu dau gynnig cyntaf cyn i Chris Seargeant, Alex Darlington a Wes Fletcher sgorio i’r Seintiau, cyn i Paul Harrison sgorio ac arbed cynnig olaf Queen of the South i yrru’r Seintiau Newydd i’r rownd nesaf.

Heddiw mewn hanes

19 Tachwedd

Ar y diwrnod yma yn 2003 collodd Cymru 1-0 yn erbyn Rwsia o flaen torf o 73,000 yn Stadiwm Mileniwm gan dorri calonau’r Cymry unwaith eto.