Y Seintiau Newydd v Queen of the South

067_323__irnbrulogo1_1466601512_standard (1)
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 9 Nov 2017, 10:00

Bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd yn croesawu Queen of the South i Neuadd y Parc brynhawn Sul gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio am 14:30.

Am ail dymor yn olynol mae’r Seintiau Newydd wedi disgleirio yng Nghwpan Her Irn-Bru Yr Alban.

Ar ôl trechu Livingston ac Elgin City, mae’r Seintiau yn wynebu Queen of the South am le yn y rownd gynderfynol.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John, Owain Tudur Jones a Tomi Morgan ar Neuadd y Parc i weld a all carfan Scott Ruscoe brofi eu hunain yn erbyn y clwb o Dumfries yn ne’r Alban (cic gyntaf, 2.45).

Cyrraedd y rownd gynderfynol oedd hanes y ddau glwb y tymor diwethaf gyda’r Seintiau yn colli i St Mirren, a Dundee United yn curo’r Doonhamers yn y gêm arall.

Gydag enwau adnabyddus fel Stephen Dobbie, gynt o Abertawe, a James McFadden enillodd dros 40 cap i’r Alban yng ngharfan Queen of the South, bydd hon yn her go iawn i garfan Scott Ruscoe.

Ar ôl colli gartref yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf mi fydd Y Seintiau Newydd yn benderfynol o sicrhau buddugoliaeth brynhawn Sul.

Y Seintiau Newydd v Queen of the South – YN FYW ar S4C, ddydd Sul 12 Tachwedd am 14:30.