Y Seintiau Newydd yn cipio’r bencampwriaeth am y chweched tymor yn olynol

TNS_022Bangor City030417
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 4 Maw 2017, 19:59

Tîm Craig Harrison yn trechu Bangor 4-0 ac yn sicrhau tlws y Gynghrair hefo saith gêm yn weddill o’r tymor.

Mae record arbennig Y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru yn parhau gyda’r clwb yn sicrhau’r bencampwriaeth am y chweched tymor yn olynol.

Llwyddodd tîm Craig Harrison gipio’r bencampwriaeth ar ôl curo Bangor 4-0 ar Neuadd y Parc – gyda’r Seintiau Newydd yn ennill y Gynghrair am yr 11fed tro yn eu hanes.

Dim ond unwaith mae’r Seintiau Newydd wedi colli yn y Gynghrair y tymor hwn mewn tymor hanesyddol – gyda’r clwb o Groesoswallt eisoes wedi torri record y byd y tymor hwn ar ôl ennill 27 gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth – gan dorri record Ajax o 26 buddugoliaeth yn olynol nôl yn 1971/72.

Mae’r Seintiau y nawr mewn sefyllfa i gasglu’r trebl ddomestig am y trydydd tymor yn olynol – gyda’r clwb eisoes wedi sicrhau Cwpan y Gynghrair ac wedi camu i rownd gynderfynol Cwpan Cymru.