Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Nathaniel MG 2016-17

Screen Shot 2017-01-21 at 20.08.53
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 21 Jan 2017, 20:09

Hat-tric Chris Seargeant a gôl gan Adrian Cieslewicz yn ormod i’r Barri wrth i’r Seintiau Newydd godi Tlws y Gynghrair am y trydydd tymor yn olynol.

Llwyddodd Y Seintiau Newydd i guro’r Barri 4-0 ar gae Campws Cyncoed MET Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i bigo eu tlws cyntaf o’r tymor. Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner, wrth i’r Barri sefyll eu tir ac amddiffyn yn gadarn drwy’r hanner cyntaf.

Roedd rhaid i amddiffynnwr y Barri, Chris Hugh glirio oddi ar ei linell gôl dwywaith, gyda’r Barri hefyd yn galw ar y golwr profiadol, Mike Lewis i arbed sawl siot ar gôl.

Er i’r Barri daro’r trawst, llwyddodd Seargeant i rwydo gan y llifddorau wedi 77 munud. Adrian Cieslewicz sgoriodd yr ail i’r Seintiau cyn i Seargeant sgorio ddwywaith yn rhagor i selio’r fuddugoliaeth a chipio’r gwpan i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r Seintiau Newydd y nawr wedi ennill 13 gêm yn olynol yng Nghwpan y Gynghrair – gan godi’r tlws tri gwaith yn olynol – record sy’n estyn yn ôl i Hydref 2013.