Y Seintiau’n colli am y tro cyntaf y tymor yma

untitled-71
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Sul, 12 Feb 2017, 17:00

Ar ôl 31 gêm heb golli yn 2016/17 (ennill 30, cyfartal 1) daeth y rhediad rhagorol i ben i’r Seintiau Newydd oddi cartref yng Nghaerfyrddin brynhawn Sadwrn.

Wythnos ar ôl curo gap Cei Connah (0-1) roedd un gôl yn ddigon i’r Hen Aur unwaith eto gyda Liam Thomas yn penio unig gôl y gêm i Gaerfyrddin cyn yr egwyl.

Cyn y golled brynhawn Sadwrn, Y Drenewydd oedd yr unig dîm arall i gymryd pwyntiau oddi ar y Seintiau ar ôl gêm gyfartal (3-3) ym mis Ionawr.

Roedd YSN wedi torri record y byd wrth ennill 27 gêm yn olynol cyn y gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Y Drenewydd.

Airbus UK oedd y tîm diwethaf i guro’r Seintiau yn UG Cymru, ac hynny nôl ym mis Ebrill 2016 (3-2).

Er waetha’r golled, mae’r Seintiau yn parhau i fod 21 pwynt yn glir ar frig tabl UG Cymru a dim ond angen pedwar pwynt o’u wyth gêm sy’n weddill i sicrhau’r bencampwriaeth.