Yr eira yn effeithio gemau yn Uwch Gynghrair Cymru JD

24991439_10155979359613156_6668033380088913764_n
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 9 Rhag 2017, 15:35

Oherwydd eira dros feysydd pêl-droed Cymru dros y penwythnos bu rhaid gohirio sawl gêm yn Uwch Gynghrair Cymru JD, yr hyn yn cynnwys gêm fyw Sgorio, Y Bala v Y Seintiau Newydd.

Nos Wener cafodd y gêm yn y Motion Finance Stadium rhwng Prestatyn a Derwyddon Cefn ei alw i ffwrdd oherwydd y tywydd drwg.

Cafodd gemau’r Sadwrn hefyd eu heffeithio, gyda gêm fyw’r penwythnos rhwng Y Bala a’r Seintiau Newydd a’r gêm rhwng Y Drenewydd a Met Caerdydd eu gohirio oherwydd yr eira.

Mi fydd uchafbwyntiau gweddill gemau Uwch Gynghrair Cymru i’w gweld ar S4C nos Lun am 5:35.