5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Oliver Davies (Llanelli)
Ar ôl colli pum gêm gynghrair yn olynol roedd angen buddugoliaeth ar Lanelli, ac roedd angen perfformiad cadarn gan y golwr i wneud hynny. Mae’r triphwynt yn golygu bod y cochion bellach ond un pwynt tu ôl i Landudno a diogelwch y 10fed safle.

Joe Kenton (Y Drenewydd)
Doedd hi ddim yn glasur ar Barc Latham ond fe fanteisiodd Joe Kenton a’r gamgymeriadau gwael yn amddiffyn Y Barri i rwydo dwy gôl gan sicrhau bod record berffaith Y Drenewydd gartref yn parhau.

Danny Brookwell (Caernarfon)
Sgoriodd Brookwell ddwy gôl gampus i Gaernarfon nos Wener yn eu gêm gyfartal yn erbyn Y Bala (2-2). Mae Brookwell wedi profi ei fod yn arf peryglus i lawr asgell y Cofis gyda’i rediadau cryf a chyflym, a’i gywirdeb gyda’i droed chwith.

James Davies (Derwyddon Cefn)
Daeth Davies ymlaen fel eilydd i ennill y gêm mewn steil i’r Derwyddon yn erbyn Aberystwyth ar Y Graig nos Wener. Mae’r triphwynt wedi codi’r Derwyddon o’r ddau isaf i’r 8fed safle.

Jordan Follows (Llanelli)
Ar ôl creu’r gôl gyntaf gyda phas wedi ei phwyso’n hyfryd, fe sgoriodd Jordan Follows gôl arbennig i ennill y gêm i Lanelli ar Barc Maesdu brynhawn Sadwrn. Hon oedd gôl gyntaf Follows yn UG Cymru ers tair mlynedd ac roedd hi’n un allweddol i gadw Llanelli rhag llithro ymhell o weddill y pac ar waelod y tabl.