5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Mike Lewis (Y Barri)
Ar ôl gêm i’w anghofio yn Y Drenewydd y penwythnos diwethaf, fe brofodd Mike Lewis ei allu unwaith eto brynhawn Sadwrn gyda perfformiad cadarn ar Barc Jenner i gadw llechen lân yn erbyn Caerfyrddin.

George Horan (Cei Connah)
Roedd hi’n gêm fratiog ac yn gêm galed i George Horan yn erbyn Coleraine yng Nghwpan Irn Bru nos Sadwrn. Roedd y blaenwr Eoin Bradley yn chwarae’n glyfar a chyfrwys i geisio ennill ciciau rhydd drwy bwyso a syrthio mewn i’r amddiffynnwr Horan drwy gydol y gêm. Ond Horan oedd yn dathlu ar y diwedd ar ôl sgorio’r gôl allweddol i yrru’r Nomadiaid i rownd yr wyth olaf.

Chris Hugh (Y Barri)
Sgoriodd y cefnwr chwith Chris Hugh ei gôl gyntaf o’r tymor i sicrhau’r triphwynt yn erbyn Caerfyrddin brynhawn Sadwrn. Mae’r Barri bellach yn hafal ar bwyntiau gyda’r Seintiau (2il) ar ôl ennill pob un o’u pedair gêm gartref yn UGC y tymor yma.

Chris Venables (Y Bala)
Mae record berffaith Y Bala gartref ar Faes Tegid yn parhau yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Y Drenewydd yn y glawn nos Wener (3-2). Y capten Venables sgoriodd dwy o’r goliau gan godi ei gyfanswm yn UG Cymru i 149 gôl mewn 407 o gemau.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Rhwydodd Eliot Evans chwip o gic rydd i selio’r pwyntiau i’r myfyrwyr ar Barc Stebonheath nos Wener. Mae rhif.7 Met wedi chwarae rhan allweddol mewn mwy o goliau (10) nac unrhyw chwaraewr arall yn UG Cymru y tymor hwn (sgorio 4, creu 6).