5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Jordan Hart (Queen’s Park)
Golwr Queen’s Park oedd seren y gêm ar Barc Hampden nos Wener gan iddo wneud sawl arbediad arbennig i’r Albanwyr yn rownd wyth olaf Cwpan Irn Bru.

Gareth Edwards (Caernarfon)
Sgoriodd Gareth Edwards ei gôl gyntaf yn UG Cymru nos Sadwrn wrth i Gaernarfon guro Met Caerdydd i’w gwneud hi’n ddwy fuddugoliaeth yn olynol i’r Cofis.

Greg Walters (Caerfyrddin)
Roedd Walters yn dechrau ei 50fed gêm yn UG Cymru ddydd Sadwrn, ac fe sgoriodd gôl orau’r penwythnos gyda ergyd hyfryd o du allan y cwrt i’r gornel uchaf.

James Loveridge (Llanelli)
Er bod Llanelli yn stryffaglu tua’r gwaelod, mae eu ymosodwr James Loveridge yn gydradd drydydd ar restr prif sgorwyr y gynghrair ar ôl sgorio ei 7fed gôl o’r tymor brynhawn Sadwrn.

Michael Wilde (Cei Connah)
Roedd hi’n edrych fel bod Cei Connah ar eu ffordd allan o Gwpan Irn Bru cyn i Michael Wilde ddangos ei brofiad drwy greu gôl i George Horan gael unioni’r sgôr, cyn rhwydo’r gôl fuddugol yn y munudau olaf.