5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Alex Lang (Met Caerdydd)
Hanner ffordd at yr hollt ac mae’r myfyrwyr yn dal eu tir yn y Chwech Uchaf ar ôl gêm gyfartal ar y Graig diolch i ambell i arbediad campus gan y golwr ifanc Alex Lang.

Macauley Southam-Hales (Y Barri)
Roedd Southam-Hales yn fygythiad cyson i lawr yr asgell ar Barc Jenner nos Wener yn ymuno â’r ymosod o safle’r cefnwr de.

Naim Arsan (Derwyddon Cefn)
Dyw Naim Arsan ddim yn sgorio goliau hawdd! Fe yrrodd hanner-foli hyfryd i’r gornel bella’ i sicrhau pwynt i’r Derwyddon yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Luke Boundford (Y Drenewydd)
Sgoriodd Y Drenewydd deirgwaith ar yr Oval nos Wener i aros o fewn gafael i’r ceffylau blaen. Rhwydodd Boundford gyda’i ben am yr ail wythnos yn olynol i’r Robiniaid.

Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd)
Fel dywedodd Sion Meredith, fe lusgodd Aeron Edwards ei dîm allan o drwbwl nos Sadwrn gan sgorio dwy gôl fendigedig i yrru’r pencampwyr yn ôl i frig y tabl.