5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Oliver Davies (Llanelli)
Er bod Llanelli wedi ildio chwech yn erbyn Cei Connah fe allai hi wedi bod yn llawer gwaeth oni bai am ddoniau rhyfeddol Oliver Davies rhwng y pyst.

Lee Jenkins (Aberystwyth)
Yn ogystal â chadw llechen lân, Lee Jenkins sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Aber drechu’r Seintiau am y tro cyntaf ers 11 mlynedd. Yr amddiffynnwr ifanc yw’r chwaraewr ieuengaf i sgorio i Aberystwyth yn UG Cymru ers Tom Bradshaw yn nhymor 2008/09.

Sean Smith (Y Bala)
Sgoriodd Sean Smith ei gôl gyntaf erioed yn UG Cymru nos Sadwrn (126 gêm) wrth i’r Bala guro Met Caerdydd. Cafodd Smith ei enwi’n seren y gêm am sgorio un pen y cae, a rhwystro gôl sicr ben arall y cae gyda cliriad amddiffynnol oddi ar y llinell.

Declan Carroll (Caerfyrddin)
Fe rwydodd Declan Carroll gôl arbennig i’r Hen Aur wrth i Gaerfyrddin guro Caernarfon ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn i ddringo allan o’r ddau isaf.

Michael Wilde (Cei Connah)
Yn ei 350fed ymddangosiad yn UG Cymru, fe rwydodd Michael Wilde ddwywaith a chreu un gôl arall mewn perfformiad llachar yn erbyn Llanelli, wrth i Gei Connah ddringo i frig tabl UG Cymru.

Heddiw mewn hanes

19 Tachwedd

Ar y diwrnod yma yn 2003 collodd Cymru 1-0 yn erbyn Rwsia o flaen torf o 73,000 yn Stadiwm Mileniwm gan dorri calonau’r Cymry unwaith eto.