5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Terry McCormick (Aberystwyth)
Mae Aberystwyth ar rediad anhygoel o saith gêm heb golli (ennill 5, cyfartal 2), ond mi fyddai’r rhediad wedi dod i ben ar Goedlan y Parc nos Wener oni bai am ddoniau Terry McCormick yn arbed sawl cynnig yn erbyn Caerfyrddin.

Macauley Southam-Hales (Y Barri)
Mae Southam-Hales yn mwynhau tymor arbennig fel cefnwr de ymosodol yn nhîm llwyddiannus Y Barri ac roedd yn allweddol yn y fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Y Drenewydd nos Sadwrn gan sgorio un gôl a chreu un arall.

Jordan Evans (Derwyddon Cefn)
Sgoriodd Jordan Evans foli felys nos Wener i gipio pwynt i’r Derwyddon ar y Graig yn erbyn ei gyn-glwb, Y Bala. Dyw’r Derwyddon heb golli gartref yn erbyn Y Bala ers pedair blynedd.

Andy Owens (Cei Connah)
Cei Connah sy’n aros ar frig tabl UG Cymru ar ôl buddugoliaeth gyfforddus 3-0 gartref yn erbyn Llandudno, ac roedd y cawr Andy Owens yn lond llaw i’r ymwelwyr drwy gydol y gêm.

Jordan Cotterill (Y Barri)
Cafwyd perfformiad disglair gan gapten Y Barri, Jordan Cotterill ar Barc Jenner nos Sadwrn. Cotterill oedd yn cyfarwyddo ymosodiadau’r tîm cartref ac fe greodd gôl i Drew Fahiya, cyn rhwydo’r bedwaredd ei hun gyda ergyd nerthol o ongl dynn.