5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.

Mike Lewis (Y Barri)
Mae’r Barri ymlaen i’r bedwaredd rownd ar ôl curo Penybont yn yr amser ychwanegol ond roedd angen arbediad arbennig gan Mike Lewis ar ddiwedd y 90 munud i gadw tîm Gavin Chesterfield yn y gystadleuaeth.

Chris Seargeant (Y Seintiau Newydd)
Sgoriodd Chris Seargeant hatric yng Nghwmbrân i roi enw’r Seintiau yn yr het. Mae gan Seargeant dipyn o hanes yng Nghwpan Cymru ar ôl ennill y gystadleuaeth ar chwech achlysur gan sgorio i Fangor yn ffeinal 2008 a 2009.

Ashley Ruane (Aberystwyth)
Un arall i rwydo hatric oedd blaenwr Aber, Ashley Ruane wrth iddyn nhw osgoi sioc yng Nghwmamman brynhawn Sadwrn.

Alan Mark Owen (Llangefni)
Yr ymosodwr corfforol Alan Mark Owen sgoriodd unig gôl y gêm ar Gae Bob Parry i yrru Llangefni i’r bedwaredd rownd. Y clwb o drydedd haen y pyramid yw’r tîm isaf ar ôl yn y gystadleuaeth.

Cai Jones (Caernarfon)
Ar ôl sgorio dwy a chreu’r llall, Cai Jones oedd y seren ym muddugoliaeth Caernarfon o 0-3 ym Mhrestatyn nos Wener. Dywedodd Jones ar ôl y gêm y byddai wrth ei fodd pe bae’r Cofis yn cael herio Bangor yn y rownd nesaf….