5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Dave Jones – Y Drenewydd
Golwr Y Drenewydd oedd seren y gêm ar Barc Latham dros y penwythnos gyda sawl arbediad o’r safon uchaf yn cadw’r gêm yn gyfartal yn erbyn Caerfyrddin.
Mae’r Drenewydd yn parhau yn ddi-guro ar Barc Latham – yr unig dîm yn yr Uwch Gynghrair sydd heb golli gartref y tymor hwn!

Henry Jones – Y Bala
Jones yn creu a Tames yn sgorio – mae’r Bala wedi darganfod partneriaeth beryg!
Roedd doniau Henry Jones yn amlwg ar barc Stebonheath ddydd Sadwrn gan greu tair gôl mewn buddugoliaeth o 1-7.

Ryan Brobbel – Y Seintiau Newydd
Sgoriodd y drydedd ac yn rhan allweddol o’r bedwaredd wrth i’r Seintiau guro Llandudno 0-4.
Brobbel oedd Seren y Gêm i’r pencampwyr, a llwyddodd i sgorio gôl hyfryd gan droi yn dda yn y cwrt, curo dau amddiffynnwr gyda fflic o’r bêl a rhwydo heibio Pearson yn y gôl i Landudno. Chwaraewr o safon.

Steven Tames – Y Bala
Pedair gôl i Tames yn erbyn Llanelli – ei hat-tric cyntaf i’r Bala!
Mae’r blaenwr wedi rhwydo 17 hyd yn hyn ac ar frig rhestr sgorio yr Uwch Gynghrair.

Michael Wilde – Cei Connah
Hat-tric i’r ymosodwr profiadol wrth i Gei Connah guro Met Caerdydd o 6-1 dros y penwythnos.
Tair buddugoliaeth yn olynol i’r Nomadiaid a’r tîm yn parhau ar frig yr Uwch Gynghrair.