5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos diwethaf.

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd)
Aeth Y Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig tabl UG Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Bangor brynhawn Sadwrn (2-1). Roedd rhaid i’r capten Paul Harrison fod yn effro rhwng y pyst i rwystro sawl bygythiad ymosodol gan y Dinasyddion.

Craig Williams (Y Drenewydd)
Roedd y cefnwr de Craig Williams yn ddylanwadol ym muddugoliaeth y Robiniaid yn erbyn Prestatyn brynhawn Sadwrn gan helpu’r tîm i gadw llechen lân a chyfrannu’n ymosodol. Chwaraeodd bas letraws hyfryd arweiniodd at gôl gyntaf Y Drenewydd a chreodd y drydedd gôl gyda chroesiad berffaith i Joe Kenton. Yn ddiweddar mae Williams wedi torri record clwb Y Drenewydd am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn UG Cymru (323 gêm).

Neil Ashton (Derwyddon Cefn)
Sicrhaodd y Derwyddon eu lle yn Chwech Uchaf UG Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes wrth gadw llechen lân yn erbyn Llandudno yn eu gêm olaf cyn yr hollt. Mae profiad ac arweiniad y capten Neil Ashton wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y Derwyddon ac fe brofodd ei werth gyda perfformiad cadarn arall yn yr amddiffyn brynhawn Sadwrn.

Joe Phillips (Aberystwyth)
Sgoriodd Joe Phillips ei hat-tric cyntaf i Aberystwyth dros y penwythnos, ac hynny yn erbyn amddiffyn cryfaf y gynghrair, Cei Connah. Roedd hi’n ‘hat-tric berffaith’ i Phillips gan iddo sgorio gyda’i droed dde, ei droed chwith a gyda’i dalcen.

Jordan Evans (Y Bala)
Jordan Evans oedd seren y sioe ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn, ond roedd yn rhaid i’r Bala weithio’n galed i gasglu’r triphwynt. Hon oedd 600fed gêm Colin Caton wrth y llyw i’r Bala a pha ffordd gwell i ddathlu na gyda triphwynt ar y penwythnos olaf cyn yr hollt.