5-y-penwythnos

5 y penwythnos 12.02

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Lewis Thomas (Caerfyrddin)
Mae Caerfyrddin wedi ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2015 gan gau’r bwlch ar Aberystwyth i saith pwynt. Gwnaeth Lewis Thomas, sydd ar fenthyg o Abertawe, nifer o arbediadau da i rwystro cynigion safonol gan Ryan Kershaw i gadw ei dîm ar y blaen.

Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd)
Sgoriodd Aeron Edwards ddwywaith yn erbyn Bangor nos Wener wrth i’r Seintiau gymryd cam yn nes at sichrau eu 7fed pencampwriaeth yn olynol. Dyma’r tro cyntaf i Edwards sgorio mwy nac unwaith mewn gêm gynghrair ers dros wyth mlynedd pan darodd hat-tric yn erbyn Derwyddon Cefn yn Nhachwedd 2009.

Aiden O’Kelly (Caerfyrddin)
Sgoriodd O’Kelly ei gôl gyntaf erioed yn UGC yn erbyn Y Drenewydd brynhawn Sadwrn, ac roedd hi’n ergyd danllyd o du allan y cwrt! Cafodd yr arwyddiad newydd ei enwebu ar gyfer Gôl y Mis Ionawr 2018 am ei foli hyfryd yn erbyn Airbus yng Nghwpan Cymru ac mae’n dechrau gwneud arferiad o daro goliau gwefreiddiol.

John Owen (Aberystwyth)
John Owen oedd seren y gêm yn erbyn Llandudno nos Wener gan sgorio a chreu gôl yn erbyn ei gyn-glwb. Pan mae’r blaenwr ar ben ei gêm mae’n bleser i’w wylio ac roedd hi’n fuddugoliaeth bwysig i gadw Aber saith pwynt yn glir o’r ddau isaf.

Michael Bakare (Cei Connah)
Rhwydodd Bakare am y drydedd gêm yn olynol wrth i’r Nomadiaid adael y brif ddinas gyda’r triphwynt ar ôl trechu myfyrwyr Met Caerdydd. Dyw Cei Connah heb ildio yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Met ac heb golli dim un o’u saith gêm yn erbyn y myfyrwyr yn UG Cymru. Ond bydd rhaid i Bakare ail ystyried ei ddathliad gan iddo dderbyn cerdyn melyn ar ôl chwalu polyn fflag y gornel wrth ei ddyrnu!

Heddiw mewn hanes

22 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1955 llwyddodd Cymru i drechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.