5-y-penwythnos

28773487_10156304905928156_5631091279157788672_n

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Matthew Hall (Bangor)
Gwelwyd un o berfformiadau gorau’r tymor yn Nantporth ddydd Sadwrn wrth i Matthew Hall sicrhau buddugoliaeth hollbwysig i Fangor drwy gadw llechen lân yn erbyn y pencampwyr. Fe wnaeth Hall nifer o arbediadau safonol i rwystro prif sgoriwr UG Cymru, Greg Draper rhag ychwanegu at ei gyfanswm. Ar ôl methu a canfod ffordd heibio i Hall wedi sawl cynnig fe aeth Draper ar Twitter yn dilyn y gêm i longyfarch y golwr ifanc: “My good deed done for the day! Getting the young lad a big move! Well played pal – all the best for rest of the season”

Arek Piskorski (Derwyddon Cefn)
Roedd hi’n ganlyniad gwych i’r Derwyddon gartref yn erbyn Y Bala nos Wener wrth i dîm Huw Griffiths gau’r bwlch ar Met Caerdydd yn y 5ed safle. Y Pwyliad, Piskorski sgoriodd y gôl agoriadol ar y Graig ac fe grëodd ambell i gyfle arall i’w gyd-chwaraewyr wrth i’r Derwyddon ddechrau paratoi at y gemau ail gyfle.

Michael Bakare (Cei Connah)
Mae Bakare yn dychwelyd i 5-y-penwythnos ar ôl sgorio un a chreu un wrth i Gei Connah drechu Met Caerdydd brynhawn Sadwrn i ddal eu gafael ar yr ail safle. Mae’r asgellwr wedi bod yn hynod ddylanwadol ers arwyddo i dîm Andy Morrison yn yr haf, ac hon oedd ei 10fed gôl ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Matthew Williams (Llandudno)
Ar ôl tymor digon siomedig, bydd Llandudno’n teimlo dipyn o ryddhad ar ôl curo Aberystwyth dros y penwythnos i selio eu lle yn UG Cymru ar gyfer y tymor nesaf. Yr is-reolwr, Matty Williams oedd yr arwr wrth ddangos techneg safonol i rwydo unig gôl y gêm ar Barc Maesdu ddydd Sadwrn.

Mark Jones (Caerfyrddin)
Mae Caerfyrddin wedi cau’r bwlch ar Aberystwyth (10fed) i ddim ond pum pwynt yn dilyn eu buddugoliaeth yn Y Drenewydd brynhawn Sadwrn, ac mi fydd yr Hen Aur yn brwydro hyd y diwedd i geisio osgoi’r cwymp y tymor hwn. Y blaenwr corfforol, Mark Jones oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, yn sgorio un a chreu dwy yn y llinell flaen. Ers ail-ymuno â Chaerfyrddin ym mis Ionawr mae Jones wedi cyfrannu at naw o’r 15 gôl y mae’r tîm wedi ei sgorio yn UG Cymru (60% – 2 gôl, 7 assist).

Heddiw mewn hanes

25 Ebrill

Ar y diwrnod yma yn 1981 llwyddodd Abertawe i faeddu Chelsea ar y Vetch diolch i goliau gan Neil Robinson, Jimmy Hadziabdic a Robbie James.