5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu ar benwythnos agoriadol tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru.

Alex Lang (Met Caerdydd)
Yn absenoldeb Will Fuller fe lwyddodd Alex Lang i lenwi’r bwlch a sicrhau bod y myfyrwyr yn casglu triphwynt ar y penwythnos agoriadol. Fe arbedodd gic o’r smotyn Nick Rushton yn yr hanner cyntaf a rhwystro sawl ergyd beryglus yn yr ail hanner.

Chris Seargeant (Y Seintiau Newydd)
Dyw Seargeant heb gael ei ddewis i chwarae’n Ewrop eleni, ond ar ôl rhwydo ddwywaith yn erbyn Y Barri brynhawn Sul, tybed os yw wedi gwneud digon i gael ei le yn y tîm yn erbyn Midtjylland nos Iau.

Henry Jones (Y Bala)
Mae Steven Tames yn anlwcus i beidio cael ei gynnwys yn 5-y-penwythnos ar ôl taro ddwywaith ym Maes Tegid nos Wener, ond mae pawb yn dal i siarad am y rabona gan Henry Jones – mae’n bleser cael chwaraewr o safon Henry yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru.

Declan Walker (Aberystwyth)
Ar ôl sgorio 14 o goliau o safle’r cefnwr de y tymor diwethaf, y cwestiwn oedd a fyddai Declan yn gallu parhau i ddisgleirio fel ymosodwr. Mae’n ymddangos fel ei fod wedi ateb y cwestiwn gyda gôl gampus ar Goedlan y Parc nos Wener.

Michael Bakare (Cei Connah)
Cei Connah sydd ar y copa ar ôl llarpio Llanelli ar Barc Stebonheath gyda Michael Bakare yn penio dwy gôl i’r ymwelwyr wrth i’r Nomadiaid anelu i gystadlu am y bencampwriaeth eleni.

Heddiw mewn hanes

20 Medi

Ar y diwrnod yma yn 2009 dechreuodd Cymru eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan Merched y Byd gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg.