5-y-penwythnos

5 y penwythnos-Recovered

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Dave Jones (Y Drenewydd)
Fe wnaeth y Cofis guro ar y drws ond roedd hi’n lechen lân i golwr y Robiniaid, Dave Jones. Y Drenewydd yn codi i’r 4ydd safle yn dilyn y fuddugoliaeth ar Barc Latham.

Tom Fry (Y Barri)
Chwip o gic rydd gan Tom Fry, ac hynny ar amser tyngedfennol yn y gêm eiliadau cyn yr egwyl. Chris a Tom Fry yw’r tad a’r mab cyntaf i sgorio i’r Barri yn UG Cymru.

James Loveridge (Llanelli)
Mae’n rhaid bod sgwrs hanner amser Andy Hill wedi gweithio gan i Lanelli daro nôl yn yr ail hanner ar y Graig a sgorio deirgwaith i sicrhau’r triphwynt.

Andy Owens (Cei Connah)
Dyfalbarhad Andy Owens arweiniodd at unig gôl y gêm ar Lannau Dyfrdwy, ac mi fydd gweddill y gynghrair yn llyfu eu gweflau wrth weld y Seintiau’n baglu mor fuan yn y tymor.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Yn ôl Malcolm Allen roedd Eliot Evans ben a ‘sgwyddau uwchben pawb arall ar y cae ar Goedlan y Parc nos Wener. Gyda tair gôl mewn dwy gêm hyd yma, Eliot Evans yw prif sgoriwr UG Cymru.